Datblygu Hyfforddwyr

Caiff y gwaith o ddatblygu hyfforddwyr yn Nhorfaen ei gydlynu gan Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau eraill, fel Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon a Chynghrair Wirfoddol Torfaen.

Mae datblygu hyfforddwyr yn Nhorfaen yn:

  1. Nodi a recriwtio hyfforddwyr
  2. Codi ymwybyddiaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus hyfforddwyr
  3. Hyrwyddo cyrsiau a gweithdai
  4. Darparu cymorth mentora i'r gymuned hyfforddwyr
  5. Rhoi diweddariadau i glybiau a hyfforddwyr am arfer gorau a rheoliadau
  6. Cyfrannu at y Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr a'i hadolygu
  7. Annog hyfforddwyr i wirfoddoli yn ystod amser cinio ac mewn clybiau ar ôl ysgol

Hyfforddi

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddi/gwirfoddoli yn Nhorfaen, cysylltwch â ni!

Mae hyfforddwyr yn hollbwysig i chwaraeon; maent yn rhan enfawr o sicrhau bod pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol eu hoes.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, pa un a oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu os ydych eisoes yn hyfforddwr ac yn dymuno cael gwybodaeth am sut i ddatblygu'r sgiliau hynny ymhellach, cofrestrwch ar y gronfa ddata hyfforddwyr i gael gwybodaeth am gyrsiau, gweithdai a newyddion. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Chwaraeon ar 01633 628961.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 01633 628961

E-bost: ben.jeffries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig