Rhaglen Pobl Ifanc Actif

Beth yw ein Rhaglen Pobl Ifanc Actif?

Mae ein rhaglen Pobl Ifanc Actif yn ymwneud â bod yn actif am o leiaf 60 munud, 5 gwaith yr wythnos er nad oes rhaid ei wneud i gyd ar unwaith! Bydd cerdded am 10 munud i’r ysgol, 20 munud o gicio pêl, cymryd rhan yn y filltir ddyddiol a hanner awr ar gefn beic yn gwneud y tro yn iawn. 

Ond cyn i chi ofyn, na, nid yw’n cynnwys amser eich x-box neu’n gwylio pêl-droed! 

Pwrpas ein rhaglen Pobl Ifanc Actif yw cael hwyl a rhoi cynnig ar bethau newydd, fel Dawns (stryd, hip hop, cyfoes), Pêl fasged, Trampolinio, Osgoi’r Bêl, Pêl-droed, Dringo… a gallwch wneud y cyfan oll yn yr ysgol.....cyn i’r gloch ganu peth cyntaf, pan fyddwch wedi llowcio’ch brechdanau, neu pan fydd eraill wedi sleifio adref...unrhyw bryd! Y chi sy’n bwysig. Dewiswch chi eich gweithgareddau a bydd Swyddog Pobl Ifanc Actif eich ysgol yn gwneud ei orau i wireddu’ch cais.

  • Cynyddu cyfleoedd i gymryd rhan
  • Mae pob camp yn gynhwysol ac wedi'i anelu at bob gallu
  • Cysylltu â rhaglenni pobl ifanc actif ysgolion cynradd. (Dragon Sport gynt)
  • Darparu gweithgareddau cynaliadwy
  • Darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a DPP
  • Darperir  y gweithgareddau gan bobl ifanc actif sy’n gymwys
Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig