Twnnel y Dramffordd a'r Dramffordd

Roedd y dramffordd yn rhan o system leol ehangach oedd yn cynnwys y gwaith tunplat a gefeiliau oedd yn cynhyrchu Gwaith Lacro Pont-y-pŵl.  Daeth hwn yn enwog fel techneg newydd ar gyfer gosod paneli addurnol ar amryw o eitemau bob dydd yn cynnwys hambyrddau a thebotau.

Cafodd y twnnel ei adeiladu'n wreiddiol tua 1825 i gysylltu gwaith tun Pontymoile gyda gefail y Parc a gefail Osborne ac mae'n debyg iddo gyflenwi haearn iddynt.

Parhaodd y dramffordd i redeg ar hyd ochr yr afon.  Mae bellach yn llwybr troed ac ymhellach i lawr yr afon ceir tystiolaeth o gored a llifddorau a fyddent wedi cael eu defnyddio i reoli llif y dŵr i'r gefeiliau.

Mae'r twnnel wedi ei gau erbyn hyn ond dyweder iddo ddod allan yn wreiddiol ger Pont y Dref.

Cafodd y twnnel ei ddefnyddio eto fel lloches cyrch awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae rhai preswylwyr lleol yn cofio cysgodi yno yn ystod y cyrchoedd bomio.

Nid yw'r twnnel yn cael ei ddefnyddio heddiw ond saif i'n hatgoffa o orffennol diwydiannol Pont-y-pŵl a'i gysylltiad gyda Gwaith Lacro.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig