Pyllau Nant-y-Gollen

Un pwll melin oedd Pyllau Nant-y-Gollen yn wreiddiol oedd yn ffynhonnell pŵer i'r efail ymhellach i lawr yr afon.  Roedd yr afon yn llifo i'r pwll ar y pen uchaf ac yn gadael ar y pen isaf, ond yn ddiweddarach cafodd nant ei chreu i redeg ochr yn ochr â'r pyllau.

Mae'r castanwydd melys o amgylch y pyllau oddeutu 400 mlwydd oed ac roeddent yn cael eu defnyddio fel ffynhonnell golosg i'r gefeiliau i lawr yr afon.  Mae'r coed yn addasu'n hawdd iawn ac yn tyfu'n gyflym ar ôl cael eu torri'n ôl ac felly'n creu mwy o bren y gellid ei ddefnyddio ar gyfer golosg.

Yn ystod y 1920au defnyddiwyd y pyllau gan Johnny Weismuller, y Tarzan gwreiddiol, ar gyfer digwyddiad nofio ac yn ddiweddarach dywedir mai'r pyllau oedd cartref y tîm polo dŵr lleol.

Cafodd y pyllau eu hail gynllunio yn y 1990au cynnar a chrewyd dau bwll gyda'r bwriad o gael eu defnyddio fel llynnoedd ar gyfer cychod model.  Yn anffodus mae'r pyllau'n gollwng bellach ac o ganlyniad ceir problemau sy'n gysylltiedig â diffyg dŵr a phroblemau gyda gwaddod yn y gwaelod.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig