Hawliau Tramwy

Mae Tîm Mynediad Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rheoli 369km (230 o filltiroedd) o lwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig.

Caiff y rhain eu cynnal a'u cadw'n lleol gan dimau sy'n gweithio gyda thirfeddianwyr i gadw llystyfiant dan reolaeth a sicrhau bod y llwybrau'n glir.

Mathau o Hawliau Tramwy

Llwybrau a thraciau y gallwch eu defnyddio i gael mynediad i gefn gwlad yw hawliau tramwy.

Er mai llwybrau cyhoeddus ydynt, maent yn croesi tir preifat felly cadwch at y llwybrau a pharchwch eiddo’r tirfeddiannwr yn ogystal â phawb arall sydd yn defnyddio’r llwybrau. Ni ddylai unrhyw un gael ei ddychryn na’i atal rhag defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus; mae hynny’n drosedd ac os cewch eich atal neu eich herio ar hawl dramwy rhaid i chi ddweud wrth y Tîm Mynediad. Mae yna bedwar math o Hawl Tramwy: 

  • Llwybr troed - priffordd lle mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar droed yn unig
  • Llwybr ceffylau – llwybr lle mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar droed, ar gefn ceffyl ac ar feic pedalu (gan gynnwys beiciau mynydd). Efallai hefyd y bydd hawl i yrru anifeiliaid ar hyd llwybr ceffylau
  • Cilffordd gyfyngedig- llwybr y mae gan y cyhoedd yr hawl i deithio ar droed, ar gefn ceffyl a chyda cherbydau a yrrir yn anfecanyddol (fel beiciau pedalu a cherbydau a dynnir gan geffyl). Efallai hefyd y bydd hawl i yrru anifeiliaid ar hyd cilffordd gyfyngedig 
  • Cilffordd sydd Ar Agor i Unrhyw Draffig - lle mae gan y cyhoedd yr hawl i deithio ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic pedalu a thrwy bob math o gerbyd ag olwyn, gan gynnwys cerbydau a dynnir gan geffyl, a cherbydau modur. Mae’n llwybr a ddefnyddir gan y cyhoedd ar gyfer cerdded neu farchogaeth yn bennaf. Nid yw wyneb y rhan fwyaf o'r priffyrdd hyn yn addas i draffig modur cyffredin

Mae yna hefyd lwybrau  a ganiateir, nad ydynt yn hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig, ond mae’r perchennog wedi rhoi caniatâd i’r cyhoedd ei ddefnyddio. Yn olaf mae yna lonydd gwyrdd sydd fel arfer yn draciau neu lwybrau heb arwyneb, ac ar hyd yr ymylon ceir perthi neu waliau sydd yn aml yn destun hynafiaeth. Ni does gan y term unrhyw ystyr cyfreithiol na statws, ac os oes hawl tramwy cyhoeddus ar hyd y fath drac, daw’r llwybr hwnnw fel arfer dan un o’r penawdau uchod, neu fe allai fod yn Ffordd Annosbarthedig sy’n eiddo i’r sir, felly ceir hyd iddo ar y Rhestr o Enwau Strydoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig