Gwybodaeth i Dirfeddianwyr

Os cânt eu defnyddio a'u rheoli'n iawn, gall hawliau tramwy agor y drws i gefn gwlad Torfaen, heb aflonyddu ar yr amgylchedd gwaith na'r amgylchedd naturiol, a helpu i wella ansawdd bywyd. Os yw llwybrau cyhoeddus, camfeydd a gatiau’n cael eu cadw’n glir, ac arnynt ddigon o arwyddbyst, nid oes gan y cyhoedd esgus i grwydro oddi ar y llwybr, neu ddringo trwy berthi a dros ffensys a waliau.

Gall y tîm Hawliau Tramwy eich helpu i adnabod a rheoli hawliau tramwy a materion mynediad eraill. 

Gallwn ddweud wrthych a oes unrhyw hawliau tramwy wedi'u cofnodi ar eich tir chi, ble y mae’n nhw’n rhedeg, a gallwn gynghori ar eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o wneud newidiadau i Hawliau Tramwy cyfredol, a byddwn yn cynnig cyfarwyddyd ar ffyrdd o warchod eich tir rhag Hawliau Tramwy newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig