Anifeiliaid a Hawliau Tramwy

Cŵn

Cerdded cŵn maen siŵr yw’r rheswm pennaf i nifer o bobl fynd allan i gefn gwlad, ac fe allwch fynd â’ch ci ar hyd pob hawl tramwy cyhoeddus. Rhaid eu cadw dan reolaeth ofalus a'u cadw rhag crwydro oddi ar y llwybr. Er eich lles chi, dylech gadw llygad agos ar eich anifail anwes am mai y chi fyddai’n gyfrifol am unrhyw anaf neu ddifrod y mae’n peri i ddefnyddwyr eraill ar y Llwybr neu i eiddo neu dda byw y perchennog. Mae crwydro, neu boenydio da byw, yn drosedd ddifrifol a gall tirfeddianwyr gymryd camau cyfreithiol. Mae'n ddoeth cadw'ch ci ar dennyn wrth fynd drwy dir lle mae stoc yn pori, mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith os ydych ar Dir Mynediad Agored rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf. Cofiwch gadw cymaint o bellter â phosibl rhwng eich ci a’r anifeiliaid. Bydd defaid yn siŵr o symud i ffwrdd ond gall gwartheg fod yn chwilfrydig iawn ac yn amheus iawn o gŵn, yn enwedig pan fydd eu lloi gyda hwy. Os bydd y gwartheg yn dechrau ymddwyn yn ymosodol, gadewch i’ch ci fynd a gadewch iddo gael hyd i le diogel tra eich bod yn gadael y cae cyn gynted ag y medrwch. Gall dal gafael ar eich ci arwain at ymosodiad arnoch neu fe allai achosi anaf i chi.

Rhaid i’r sawl sy’n berchen ar gŵn beidio â chaniatáu i’w anifeiliaid faeddu ar Lwybrau Tramwy neu dir fferm a rhaid iddynt lanhau’r baw ci a gwaredu arno’n ddiogel. Mae taflu’r bag i ffwrdd neu ei hongian ar goeden yn cael ei gyfri fel gadael sbwriel a chaiff ei ystyried yn drosedd. Mae glanhau ar ôl eich ci yn atal lledaenu afiechydon sydd yn effeithio ar bobl yn ogystal ag anifeiliaid, ee Toxicara (gall achosi dallineb) neu Hydatids (gall achosi codenni mewnol)

Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar dirfeddianwyr i ddarparu mynediad yn benodol i gŵn (e.e. gorddrws i gŵn wrth ymyl camfa).

Dylai tirfeddianwyr sicrhau na fydd eu cŵn eu hunain yn dychryn defnyddwyr nac yn rhwystro'r hawl tramwy.

Ceffylau

Caiff marchogion ddefnyddio llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig neu gilffyrdd sydd ar agor i bob traffig. Ni chânt ddefnyddio llwybrau troed heb ganiatâd y tirfeddiannwr. Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a cheffylau ar lwybrau ceffylau; ym mhob achos arall, dylai defnyddwyr ein hawliau tramwy roi ystyriaeth briodol i ddefnyddwyr eraill.     

Mae’n anghyfreithiol cadw ceffylau ar dir os oes hawl dramwy gyhoeddus drwy’r tir, ond rhaid i dirfeddianwyr yn ogystal â marchogwyr, fod yn ymwybodol y gallent fod yn atebol am unrhyw anaf neu niwed y mae eu hanifail yn ei achosi i eraill sy’n defnyddio’r llwybr, neu i eiddo, yn enwedig os ydynt yn gwybod bod yr anifail wedi ymddwyn mewn ffordd beryglus o’r blaen.

Da byw

Dylid trin da byw â pharch a gofal. Nid yw teirw'n cael crwydro'n rhydd mewn cae sy'n cael ei groesi â hawl tramwy, oni bai:

  • Bod y tarw'n llai na 10 mis oed, neu    
  • Nid yw'r tarw'n frîd godro cydnabyddedig (Swydd Aeron, Ffrisiaid Prydeinig, Holstein Prydeinig, Byrgorn Godro, Guernsey, Jersey neu Kerry) ac mae yng nghwmni buchod neu heffrod. 
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Yr Adran Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig