Gwirfoddoli yng Nghefn Gwlad

Os ydych chi’n frwdfrydig ynglŷn â’n tirwedd, a’i bywyd gwyllt ac os ydych yn mwynhau gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored, efallai y byddai gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gydag un o nifer o grwpiau o wirfoddolwyr yn Nhorfaen.

Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Torfaen

Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth hanfodol i Wardeniaid Cefn Gwlad Cyngor Torfaen, ac yn helpu cynnal a rheoli llwybrau troed, gwarchodfeydd natur lleol a choedlannau’r fwrdeistref. Mae hon yn ffordd wych o chwarae rhan yn helpu’r amgylchedd lleol a chael y manteision iechyd a ddaw yn sgîl gwirfoddoli.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr cefn gwlad, ffoniwch Mark Panniers ar 01633 648035 i gael mwy o wybodaeth.

Gwirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae gan Wirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon gyfres reolaidd o weithgareddau yn y dirwedd ac mae croeso i aelodau newydd ymuno unrhyw adeg. Cysylltwch â’r grŵp yn bwheg@hotmail.co.uk os hoffech fynychu gweithgaredd blasu neu i ymuno â’r grŵp, neu i gael mwy o wybodaeth am y grŵp ewch i’w Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon Gwirfoddolwyr Amgylcheddol tudalen facebook.

Grŵp Gwarchodfa Natur Leol Henllys

Mae Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys yn Grŵp Gwirfoddol sydd wedi ei sefydlu i warchod a gwella Gwarchodfa Natur Leol Henllys er budd bywyd gwyllt, trigolion lleol a defnyddwyr eraill, ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd i ymgymryd ag amrywiol weithgareddau cadwraeth.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Flog Grŵp Gwarchodfa Natur Leol Henllys

Gwirfoddoli ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu gan gynnwys

Gwirfoddolwyr Camlas Torfaen

Mae’r grŵp yn cynnal gweithgareddau misol yn ardal Cwmbrân, gan gynnwys codi sbwriel a chlirio llanast tipio slei bach a thorri llystyfiant. Cysylltwch â Hugh Woodford ar 01633 862481 i gael mwy o wybodaeth.

Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru

Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth gan gynnwys chwarae rhan gyda’r Tasglu Llwybr Halio, dod yn geidwad loc gwirfoddol, helpu bywyd gwyllt, dysgu mwy am dreftadaeth y gamlas neu swydd yn y swyddfa. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru.

Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a’r Fenni

Mae cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys clirio sbwriel, trefnu digwyddiadau, gwneud gwaith gweinyddol, helpu rhedeg y Cwch neu gynorthwyo gyda gofalu am ein Canolfan Wybodaeth yng Nghasnewydd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a’r Fenni.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Access Team

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig