Bioamrywiaeth yn Nhorfaen

Yma yn Nhorfaen, cynefinoedd naturiol o ansawdd uchel ac ardaloedd o bwysigrwydd cadwraeth cenedlaethol a lleol yw ein prif nodweddion, lle mae gennym pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, tua 200 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur a saith Gwarchodfa Natur Leol. Mae Afon Lwyd yn goridor ecolegol pwysig yn Nhorfaen ochr yn ochr â chamlas Mynwy ac Aberhonddu.

Mae'r cynefinoedd allweddol yn cynnwys coetir collddail hynafol, gwlypdiroedd, glaswelltir sy'n gyfoeth o rywogaethau a rhostir ucheldirol sy'n doreth o rugoedd . Mae coetiroedd yn gyffredinol yn cwmpasu tua 5% o gyfanswm yr ardal yn Nhorfaen gyda llawer o enghreifftiau o goetiroedd hynafol yng Nghwmbrân sydd dros 400 o flynyddoedd oed.

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Torfaen (2003) yn manylu ar fesurau i'w cymryd i sicrhau bod y fwrdeistref sirol yn cadw ac yn gwella ei bioamrywiaeth gyfoethog ac amrywiol. Mae'r cynllun, a hwylusir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Torfaen, yn cynnwys cynlluniau gweithredu ar wahân ar gyfer dros 20 o gynefinoedd allweddol ac ystod eang o rywogaethau sy'n galw am weithredu brys. Mae'r rhain yn amrywio o rywogaethau eiconig fel cornicyllod, grugieir cochion a dyfrgwn i lysiau melynfelynog,cap cwyr pinc sy'n fwy anghyffredin, a'r criciedyn penfain adain hir a'i enw rhyfedd.

Mae bioamrywiaeth yn thema drawsbynciol i lywodraeth leol gyda chysylltiadau cryf â phob mater datblygu cynaliadwy arall. Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 sy'n gosod dyletswydd ar bob adran awdurdod lleol i roi sylw i fioamrywiaeth. Gosodir cyfrifoldebau pellach gyda'r Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd)

Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn bodloni ei rwymedigaeth i amddiffyn a gwella bioamrywiaeth yn Nhorfaen. Ond ni all y cyngor yn unig gyflawni gwaith cadwraeth natur. Mae llawer o'r rhai sydd â diddordeb mewn diogelu a gwella bioamrywiaeth Torfaen yn cyfarfod fel rhan o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Torfaen i gydweithio. Mae'r bartneriaeth hon wedi bod yn ei le ers 1999 ac mae'n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau statudol ac anstatudol yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb.

I ddarganfod mwy am sut y gallwch chi a'ch sefydliad helpu i gyfrannu at amcanion Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Torfaen a'i bartneriaeth, cysylltwch â Steve Williams, Arweinydd Tîm Ecoleg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar: 01633 648256. E-bost: steve.williams@torfaen.gov.uk

Hyrwyddwr Bioamrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn eu cyngor i bob corff cyhoeddus ynghylch y 'Dyletswydd Bioamrywiaeth' fel y'i nodir yn Adran 40 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn argymell bod awdurdodau lleol yn enwebu Hyrwyddwr Bioamrywiaeth '. Rôl yr hyrwyddwr yw hwyluso gweithredoedd sy'n diogelu a gwella bioamrywiaeth.

Yn hyn o beth, y Cynghorydd Fiona Cross yw'r 'Hyrwyddwr Bioamrywiaeth' dynodedig ar gyfer Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Ecoleg

Ffôn: 01633 648256

Nôl i’r Brig