Amgueddfeydd ac Orielau

Mae gan Dorfaen nifer o amgueddfeydd ac orielau y gallwch ymweld â hwy trwy gydol y flwyddyn. Mae Torfaen yn ymfalchïo mewn amrywiaeth o atyniadau treftadaeth gan gynnwys gwaith haearn o'r 18fed ganrif gyda bythynnod cadwedig a oedd unwaith yn gartrefi i weithwyr haearn, ond sydd erbyn hyn wedi cael eu dodrefnu i ddarlunio amseroedd a fu ; Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru sydd wedi ennill gwobrwyon, lle gall ymwelwyr gael profiad uniongyrchol o sut oedd bywyd i genedlaethau o lowyr; Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange sef prif leoliad arddangos celfyddydau gweledol a chrefftau yn Ne Ddwyrain Cymru; i Amgueddfa Pont-y-pŵl, ein hamgueddfa sir lle gallwch weld hanes Torfaen.

Isod gallwch ddod o hyd i ganllaw byr i bob un o'r prif amgueddfeydd ac orielau, gyda'u hamseroedd agor a phrisiau mynediad, a dolen i'w gwefan. 

Amgueddfa Pont-y-pŵl (Amgueddfa Sir)

Adeiladau’r Parc 
Pont-y-pŵl 
NP4 6JH

Ffôn: 01495 752036
Gwefan: www.torfaenmuseum.org.uk
E-bost: torfaenmuseum@outllook.com

Wedi'i lleoli mewn Stablau Sioraidd, gyda chwrt canolog, mae’r Amgueddfa yn gartref i’r casgliad sirol. Yn llawn arteffactau lleol, gydag arddangosfa ragorol o Waith Japan, casgliadau diddorol o 'fywyd cartref ' yr Oes Victoria, Dodrefn Fwyta Glantorfaen, Eglwysi a Chapeli, hanes masnachol, gwneud clociau, Rorke’s Drift a Thorfaen diwydiannol. Mae'r Amgueddfa yn cynnal rhaglen arddangosfeydd dros dro rheolaidd, yn amrywio o Gelf i ddiddordeb lleol megis yr arddangosfa boblogaidd "Pooler" yn 2012. Mae'r caffi Vintage sydd newydd ei lansio yn slot rheolaidd ar gyfer arddangosfeydd 'gwerthu' i artistiaid lleol.

Oriau Agor

Dydd Mawrth - Ddydd Gwener 10am-5pm, Dydd Sadwrn/Sul a Gwyliau Banc 2pm-5pm.

Tâl bychan am fynediad, parcio am ddim, siop anrhegion, pellter cerdded byr i Barc Pont-y-pŵl a chanol y dref.

Pwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Cymru

Blaenafon
NP4 9XP

Ffôn: 02920 397951
Gwefan: www.museumwales.ac.uk
E-bost: bigpit@museumwales.ac.uk

Amgueddfa o safon fyd-eang sydd wedi ennill sawl gwobr, lle gall ymwelwyr brofi’n ymarferol sut oedd bywyd i’r genhedlaeth o lowyr a beryglodd bywyd ac aelod i gael y mwynau gwerthfawr a hybodd y Chwyldro Diwydiannol. Ewch ar daith dan ddaear gyda chyn-löwr, a rhyfeddu at gyffro'r efelychiad aml-gyfrwng yn yr orielau mwyngloddio, ac ymweld â baddonau hanesyddol pen pwll i ddarganfod sut beth oedd bywyd i'r miloedd o lowyr a'u teuluoedd yng Nghymru. Mynediad am ddim.

Oriau Agor

Ar agor drwy'r flwyddyn 09:30am-5:00pm. Teithiau tanddaearol yn rhedeg yn aml o 10:00am-3:30pm Chwefror - Tachwedd. Ffoniwch i gael amseroedd ac argaeledd teithiau dan ddaear yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Gwaith Haearn Blaenafon

Ffôn: 01495 792615
Gwefan: www.cadw.gov.wales
E-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk

Mae’r safle dadlennol hwn yn dwyn hanes diwydiannol De Cymru yn ôl i’r cof. Un o weithfeydd haearn o’r 18fed gorau Ewrop. Gall ymwelwyr dal i olrhain y broses gyfan o gynhyrchu haearn, o'r tanio ar ben y ffwrnais i fwrw’r metel tawdd yn yr iard islaw a gweld y bythynnod bach teras a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr allweddol.

Oriau Agor

Mis Ebrill i fis Hydref - bob dydd - 10:00am-5:00pm; Mis Tachwedd i fis Mawrth – dydd Gwener a dydd Sadwrn 9:30am-4:00pm a dydd Sul 11:00am-4:00pm (Mynediad olaf 30 munud cyn cau).

Amgueddfa cymunedol blaenavon

Ffôn: 01495 790991

Wefan: www.fb.com/blaenavonmuseum  

Ebost: blaenavonmuseum@outlook.com

Yr adnewyddiad o maenor llanyrafon yn 2012, adc cyn dilyn ei agoriad diweddar, bydd yr adeilad rhestredig gradd II yn awr yn cael eu defnyddio fel ganolfan dreftadaeth wledig. Mae'r adeilad trawiadol yn un o'r adeiladau hynaf sydd ddim yn grefyddol yn torfaen. Bydd ymwelwyr y'r ganolfan yn gallu dysgu am hanes y faenor, mwynhau lluniaeth yn y caffi mafon a hyd ytn oed arsylwi ystlumdod sydd wedi sefydlu cartref yn y tiroedd.

Oriau agor

Dydd Llun - Dydd sul 10am - 4pm. mynediad am ddim.

Maenor Llanyrafon

Ffordd Llanfrechfa
Cwmbrân 
NP44 8HT

Ffôn: 01633 648562
E-bost: llanyrafonmanor@torfaen.gov.uk

Cwblhawyd gwaith adnewyddu ar Faenor Llanyrafon yn 2012, ac yn dilyn ei agoriad diweddar, bydd yr adeilad rhestredig gradd II hwn yn awr yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Treftadaeth Wledig. Mae'r adeilad trawiadol yn un o'r adeiladau anghrefyddol hynaf yn Nhorfaen. Bydd ymwelwyr â'r ganolfan yn gallu dysgu am hanes y faenor, mwynhau lluniaeth yn y caffi a hyd yn oed arsylwi ystlumod sydd wedi sefydlu cartref yn y tiroedd.

Oriau Agor

Dydd Llun – Ddydd Sul 10am-4pm. Mynediad am ddim.

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

Heol Dewi Sant
Cwmbrân 
NP44 1PD

Ffôn: 01633 483321
Gwefan: www.lgac.org.uk
E-bost: info@lgac.org.uk

Wedi ei leoli mewn cartref gŵr bonheddig o Oes Fictoria, mae gan Llantarnamn Grange dair oriel sy’n arddangos celf a chrefft leol, genedlaethol a rhyngwladol.  Mae wedi ei leoli mewn lleoliad cyfleus yng nghanol tref Cwmbrân gyda pharcio am ddim, a gorsafoedd bws a threnau yn agos. Mae ein siop crefft yn gwerthu cerameg, gwydr, gemwaith a thecstilau gan rhai o’r gwneuthurwyr gorau yn y DU.  Caffi cyfeillgar yn gwerthu ciniawau a byrbrydau. Mynediad am ddim.

Oriau Agor

Dydd Llun - Ddydd Gwener 10.00am-5.00pm, Dydd Sadwrn 10.00am-4.00pm Ar gau ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc

Diwygiwyd Diwethaf: 20/02/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Treftadaeth Gymunedol

Ffôn: 01633 648209

Nôl i’r Brig