Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Mae'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn cynnig cyfleoedd ymarfer corff amrywiol, o safon uchel i drigolion Torfaen.

Bwriadwyd y cynllun ar gyfer pobl nad ydynt yn actif yn gorfforol ac sydd â chyflwr meddygol, gan roi cyfle iddynt gael at raglen ymarfer corff o safon uchel, gyda goruchwyliaeth, i wella'u hiechyd a'u lles.

Mae Stadiwm Cwmbrân a Chanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl yn cyflwyno'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn Nhorfaen. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael, yn y gampfa ac mewn dosbarthiadau, gyda mwy na 70 o weithgareddau i ddewis ohonynt bob wythnos gyda Hamdden Torfaen.

Am rhagor o wybodaeth ewch i www.torfaenleisuretrust.co.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff

Ffôn: 01633 627128

Nôl i’r Brig