Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru

South Wales Literature Development Initiative Logo

Partneriaeth ysgrifennu creadigol rhwng Llenyddiaeth Cymru ac awdurdodau lleol Torfaen Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Caerffili a Chasnewydd yw Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda grwpiau ac unigolion nad ydynt yn ôl traddodiad wedi bod yn rhan o’r byd ysgrifennu prif ffrwd hyd yn oed os ydynt yn blogio, tecstio, ysgrifennu llythyrau o bapurau newydd neu’n ysgrifennu cerddi mewn ymateb i ddathliadau a thrasiedïau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae prosiectau wedi cyflogi ystod eang o awduron ac artistiaid cymunedol profiadol a medrus yn cynnwys: Mike Church, Francesca Kay, Michael Harvey, Scott Quinnell, Ric Hool, Patrick Jones Carol Ann Duffy a Gillian Clarke i enwi ond rhai.

Mae Carfan Ysgrifennu Torfaen hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Adran Datblygu Celfyddydau Torfaen mewn cydweithrediad â Llyfrgelloedd Torfaen. Yn ddiweddar, mae’r garfan wedi uno gyda Charfan Ysgrifennu Casnewydd ac erbyn hyn mae’n cynnig cyfleoedd i ysgrifenwyr ifanc i flasu mannau o ddiddordeb newydd ledled y ddwy fwrdeistref , er mwyn mwynhau gweithdai ysgrifennu difyr, ysbrydoledig ac ysgogol gydag awduron o Gymru. Mae llyfrgelloedd Torfaen hefyd yn cynnal nifer o grwpiau darllen sydd yn cwrdd yn rheolaidd a mwynhau ymweliadau gan awduron lleol fel Phil Carradice a Roy Noble.

I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd ysgrifennu creadigol cysylltwch â’r Adran Datblygu’r Celfyddydau ar 01633 628968 neu e-bostiwch arts.development@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu'r Celfyddydau

Ffôn: 01633 628968

E-bost: arts.development@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig