Celf ar y Blaen

Head4Arts Logo

Mudiad celfyddydau cymunedol yw Celf ar y Blaen, sydd yn gweithio ar draws ardaloedd dwyreiniol Blaenau’r cymoedd, sydd yn cynnwys bwrdeistrefi sirol Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful. Bu safle gweinyddol Celf ar y Blaen a sefydlwyd ym mis Ebrill 2008, yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd ond mae’n trefnu gweithgareddau celf mewn amrywiol leoedd ledled yr ardal gyfan.

Mae Celf ar y Blaen yn rhagweithiol iawn yn y gymuned, yn ysgogi creadigedd a gweithredu fel y catalydd ar gyfer cynnwys cyfranogwyr drwy ddarparu gweithgareddau celf llawr gwlad a phrofiadau celf, uchel eu hansawdd dan arweiniad ymarferwyr proffesiynol.

Ariennir Celf ar y Blaen gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a hynny gyda chefnogaeth partneriaeth o’r pedwar awdurdod lleol sydd yn rhan ohono.

I ganfod pa bethau eraill sydd yn mynd ymlaen ar draws y rhanbarth ac yn Nhorfaen yn benodol, cysylltwch â Chelf ar y Blaen ar 01495 357816 neu e-bostiwch info@head4arts.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Celf ar y Blaen

Ffôn: 01495 357816

E-bost:info@head4arts.org.uk

Nôl i’r Brig