Theatr Ieuenctid y Congress

Mae Theatr Ieuenctid y Congress yn rhan annatod o swyddogaeth Datblygu’r Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a chaiff ei rheoli a’i ddarparu gan Swyddog Datblygu Celfyddydau Torfaen sydd â chyfrifoldeb am y Theatr Ieuenctid.

Ystyrir y Theatr Ieuenctid sydd yn cwmpasu plant ifanc a hŷn, yn un o’r theatrau ieuenctid mwyaf bywiog a chynhyrchiol o blith holl theatrau ieuenctid y Cymoedd, ac yn dyst i hyn mae’r holl bobl ifanc sydd ar y rhestr aros, yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r cwmni anhygoel hwn.

I gael manylion pellach ynglŷn ag aelodaeth neu gynyrchiadau sydd ar y gweill, cysylltwch â Rachel Matthews, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau (Theatr Ieuenctid) ar 01633 868239 neu ewch i’n gwefan www.congressyouththeatre.co.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog Datblygu’r Celfyddydau (Theatr Ieuenctid)

Ffôn: 01633 868239

Nôl i’r Brig