Datblygu'r Celfyddydau

Mae swyddogion datblygu’r celfyddydau yn rhoi cymorth ar ystod o wahanol gelfyddyd yn cynnwys cyfryngau digidol, theatr, dawns a cherddoriaeth. Mae cymorth ar gael i helpu grwpiau a chymunedau i archwilio’r materion sydd yn effeithio ar fywydau bob dydd, fel unigrwydd a henaint, ymwybyddiaeth o gyffuriau, ymddieithrio rhag ysgolion prif ffrwd, gofidion iechyd meddwl, diogelwch cymunedol ac addysg gelf. Gweler rhai o’r cysylltiadau â phrosiectau a phartneriaethau sydd yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd mewn partneriaeth â, neu’n gyfan gwbl gan Adran Datblygu Celfyddydau Torfaen yn y fwrdeistref.

Gall gwaith y Swyddogion Datblygu’r Celfyddydau hefyd gynnwys: datblygu strategaethau yn lleol a rhanbarthol mewn sawl ffurf celfyddyd; hyfforddiant technegol a chreadigol; canfod hwyluswyr ac artistiaid lleol, hunangyflogedig’ yn ogystal â chynorthwyo â cheisiadau am gyllid mewn perthynas â gweithgareddau sy’n seiliedig ar gelfyddyd.

Gall Adran Datblygu Celfyddydau Torfaen gynorthwyo yn nhwf cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y diwydiannau celfyddyd a chreadigol ac maent yn cysylltu grwpiau a/neu artistiaid ag ymgynghorwyr busnes, cymorth cynllunio, swyddogion adfywio a rheolwyr canol tref i’w cynorthwyo i ddatblygu eu syniadau am brosiect neu gyfleoedd busnes.

Os oes gennych ymholiadau, neu efallai bod angen artist arnoch ar gyfer prosiect, cyngor neu gymorth ar gyfer eich cynnig am gyllid, neu os hoffech ddysgu mwy am gyfleoedd creadigol yn Nhorfaen, cysylltwch â’r tîm ar 01633 628968 neu e-bostiwch ni ar arts.development@torfaen.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu a’ch cynghori mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu'r Celfyddydau

Ffôn: 01633 628968

E-bost: arts.development@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig