Rhandiroedd

Mae garddio rhandiroedd yn darparu ffynhonnell fforddiadwy o ffrwythau a llysiau sy'n rhan hanfodol o ddiet iach, ac mae'n weithgaredd werth chweil sy'n gwella ansawdd bywydau pobl.

Ni ellir gwadu y gall yr ymdrech gychwynnol a allai fod ei angen i gyrraedd y safon angenrheidiol i drin y tir ar lain rhandir fod yn eithaf anodd, fodd bynnag, unwaith y gwneir hynny, mae manteision tyfu eich cynnyrch eich hun a'r manteision i'r iechyd yn llawer mwy na'r holl ymdrechion angenrheidiol.

Dyma rhai o'r buddion sy'n gysylltiedig â garddio rhandir:

  • Ffynhonnell fforddiadwy o fwyd o ansawdd da
  • Gweithgaredd hamdden corfforol sy’n cynnig manteision i’r iechyd
  • Bod yn rhan o gymuned y rhandir a rhannu’r cyfoeth o wybodaeth gyda gwahanol grwpiau oedran

Nid yw pawb sy'n byw yn Nhorfaen yn ddigon ffodus i gael gardd digon mawr i dyfu ffrwythau a llysiau. Gall unrhyw un sy'n byw yn Nhorfaen ystyried gwneud cais am randir, fodd bynnag, mae yna alw uchel am randiroedd ac mae'n siŵr y bydd rhestr aros.

Os bydd safle neu ardal o fewn safle yn cael ei ystyried fel un addas, dyrennir y ddarpariaeth i'r rheini sydd ag anableddau. Bydd ysgrifennydd y safle yn ystyried anghenion unigol y person.

Mae 41 o safleoedd rhandiroedd yn Nhorfaen sydd yn cael eu hunan-rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig. Maent yn cael eu rheoli o dan un o'r ddwy Gymdeithas Rhandiroedd a ganlyn:

  • Cymdeithas Rhandiroedd De Cwmbrân sy’n rheoli 21 o safleoedd rhandiroedd yn Ne’r Fwrdeistref
  • Cymdeithas Rhandiroedd y Cwm Dwyreiniol sy’n rheoli 20 o safleoedd rhandiroedd yng Ngogledd y Fwrdeistref

Mae’r safleoedd a’r ardaloedd y maen nhw wedi eu lleoli ynddynt fel a ganlyn:

Rhandiroedd
Cymdeithas De CwmbrânCymdeithas y Cwm Dwyreiniol
Bryn-Ysgawen Croesyceiliog Poplar Avenue Y Dafarn Newydd
Bryn Gomer Croesyceiliog Greenway Tref Gruffydd
Woodland Road Croesyceiliog ST Mary’s Tref Gruffydd
Afon Terrace Croesyceiliog Stafford Road Tref Gruffydd
Greywater Llanyrafon Blaendare Road Pont-y-pŵl
Millwater Llanyrafon Lower Park Gardens Pen-y-garn
Lightwood Cae Derw Pen-y-garn 1 Pen-y-garn
Heol y De Llantarnam Pen-y-garn 2 Pen-y-garn
Trellech Close Hen Gwmbrân Ffordd Ger y Coed 1 Trefddyn
Clos Talgarth Hen Gwmbrân Ffordd Ger y Coed 2 Trefddyn
Coed Efa 1 Coed Efa Penywaun Penywaun
Coed Efa 2 Coed Efa Fowlers Field Waunfelin
Coed Efa 3 Coed Efa Grove Road Pontnewynydd
Coed Efa 4 Oaksford Lewis Field Pontnewynydd
Tŷ Canol Fairwater Mount Pleasant Pontnewynydd
Dôl Werdd Dôl Werdd Pentwyn Pentwyn
Tŷ Gwyn Dôl Werdd Garndiffaith Garndiffaith
Maendy Farm Cwmbrân Uchaf Williams Field Cwmafon
Tŷ Newydd Pontnewydd Heol Llanover Blaenafon
Clarke Avenue Pontnewydd Castle Street Blaenafon
Stry y Nant Pontrhydyrun    

Am beth mae’r Cymdeithasau Rhandiroedd yn gyfrifol?

Mae pob Cymdeithas yn gyfrifol am reoli’u safleoedd priodol o ddydd i ddydd. Dyma rhai o’u cyfrifoldebau:

  • Rheoli’r gyllideb
  • Cynnal rhestri aros
  • Gosod lleiniau
  • Cyhoeddi Cytundebau Tenantiaeth Blynyddol
  • Casglu rhent
  • Cynnal/creu gwelliannau ar eu safleoedd
  • Monitro a rheoli’r defnydd o ddŵr
  • Delio ag anghydfodau’n ymwneud â rhandiroedd
  • Terfynu tenantiaethau

Faint yw’r rhent am lain ar randir?

Codir tâl blynyddol am lain ar randir a gall fod yn destun adolygiad. Mae cyfanswm y ffi yn cynnwys y canlynol:

  • Sicrwydd yswiriant·
  • Aelodaeth Cymdeithasol Genedlaethol Rhandiroedd a Garddio er Hamdden
  • Rhent fesul 25M2
  • Aelodaeth Cymdeithas Rhandiroedd perthnasol hy Cymdeithas Rhandiroedd y Cwm Dwyreiniol neu Gymdeithas Rhandiroedd Cwmbrân.
  • Gweinyddol

Gall safle rhandiroedd unigol gynnwys ffi ychwanegol i helpu gyda datblygu neu weinyddu eu safle. Bydd Ysgrifennydd y Safle neu aelod o Grŵp Cymdeithas Rhandiroedd yn rhoi eglurhad a dadansoddiad o'r holl gostau cysylltiedig.

Cytundeb Tenantiaeth

Mae'n ofynnol i bob Tenant ar randir i dalu'r rhent ac arwyddo Cytundeb Tenantiaeth bob blwyddyn. Mae'r Cytundeb Tenantiaeth yn cynnwys y prif reolau y mae angen i Denant rhandir lynu atynt, fodd bynnag, dylid bob amser darllen Cytundeb Tenantiaeth ar y cyd â Llawlyfr Ysgrifenyddion y Safle. Gweler y Cytundeb Tenantiaeth a all fod yn destun adolygiad.

Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle

Mae'r Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle yn cynnwys y rheolau a safonau y mae'n ofynnol i bob safle rhandiroedd a thenantiaid lynu atynt, mae'n cynnwys y weithdrefn anghydfod. A fyddech cystal â gweld Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle a all fod yn destun adolygiad.

Noder: Cyfrifoldeb y Tenant yw ymgyfarwyddo â thermau ac amodau eu Cytundeb Tenantiaeth a Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle.

Sut mae'r holl Safleoedd Rhandiroedd yn cael eu rheoli?

Mae'r holl safleoedd rhandiroedd yn cael eu rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig dan un o ddau o'r cymdeithasau a grybwyllwyd uchod y cyfeirir atynt fel arall fel y Grŵp Cymdeithas Rhandiroedd sy'n cynnwys y canlynol:

  • Ysgrifennydd y Gymdeithas
  • Cadeirydd y Gymdeithas
  • Trysorydd y Gymdeithas
  • Aelodau Cyfetholedig

Mae Grŵp y Gymdeithas yn gyfrifol am reoli'r holl safleoedd rhandiroedd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt o ddydd i ddydd. Mae cyfarfodydd yn cynnal eu cynnal bob chwe mis rhwng grwpiau'r cymdeithasau, y mae iddynt Gadeirydd a Chynghorydd, a Swyddog Rhandiroedd y Cyngor.

Noder: Oherwydd bod y Cymdeithasau yn Rheoli eu Hunain, nid fydd Swyddog Rhandiroedd y Cyngor yn cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod. Gweler Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle - "Trefn Anghydfodau".

Sut mae safle rhandiroedd unigol yn cael ei rheoli?

Mae gan bob safle Ysgrifennydd Safle, Trysorydd ac Aelodau Pwyllgor a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae pob Tenant yn atebol i'r bobl hyn.

Ceir safonau ac ymddygiad penodol y mae'n rhaid eu bodloni. Bydd ysgrifennydd y safle neu bwyllgor o aelodau yn gallu rhoi arweiniad ar bob agwedd ar reolau'r safle ac ati. Unwaith eto, mae'n gyfrifoldeb ar y Tenant i sicrhau ei fod ef neu hi yn gwbl ymwybodol o'r rheolau yn y Cytundeb Tenantiaeth, Llawlyfr Ysgrifennydd y Safle neu unrhyw reolau unigol ychwanegol sydd gan y safle.

Mae'n bwysig nodi y gallai torri unrhyw rhai o'r uchod arwain at derfynu'r Denantiaeth ar unwaith a gellir gofyn i'r Tenant adael y safle ar unwaith.

Sut ydw i’n gwneud cais am randir?

Gallwch wneud cais drwy ddilyn unrhyw rhai o’r opsiynau a ganlyn:

  1. Ymweld â’r safle neu’r safleoedd o’ch dewis a gofyn i siarad ag Ysgrifennydd y Safle fydd yn cymryd eich manylion a chysylltu â chi pan fydd rhandir ar gael.
  2. E-bostio mark.panniers@torfaen.gov.uk neu ffonio’r 01633 648035. Bydd angen i chi rhoi’r wybodaeth a ganlyn:
  • Enw llawn
  • Yr ardal o’ch dewis neu
  • Enw’r safle neu safleoedd o’ch dewis
  • Rhif ffôn

Bydd y manylion uchod yn cael eu rhoi i’r gymdeithas rhandiroedd berthnasol sy’n rheoli’r rhestr aros a byddant yn cysylltu â chi pan fydd llain ar gael.

Faint o amser fydd angen i mi aros am randir?

Nid yw'n bosibl darparu amser o ran pryd y bydd rhandir ar gael. Bydd hyn yn dibynnu ar ba bryd bynnag y bydd tenant yn rhoi'r gorau i'w lain.

Yn ogystal â'r uchod, os byddwch yn dewis mwy nag un safle, byddwch yn fwy tebygol o gael llain.

Sut allaf ddod yn aelod o Bwyllgor y Safle neu Grŵp y Gymdeithas?

Dros amser, mae rhai tenantiaid yn dod yn angerddol dros y safle a sut y mae'n cael ei redeg ac felly fe fyddant yn teimlo yr hoffent gyfrannu at ddatblygu a rhedeg y safle. Dylid mynegi'r fath diddordeb i Ysgrifennydd y Safle neu'r Pwyllgor a fydd yn croesawu'r diddordeb. Bydd pob safle yn pleidleisio'n ddemocrataidd dros aelodau.

Yr un fydd y broses i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn aelod o Grŵp y Gymdeithas.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Environment Team

Ffôn: 01633 648035

E-bost: mark.panniers@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig