Digartrefedd

A ydych chi’n gofidio am eich sefyllfa o ran eich cartref? A oes angen help, cymorth neu gefnogaeth arnoch?

Gallwch fynychu un o'n gwasanaethau galw heibio, lle gallwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb am eich gofidion.

Bydd y swyddog yn dweud wrthych ba opsiynau sydd gennych ac yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i helpu i ddatrys eich sefyllfa.

Sesiynau Galw Heibio am Gymorth Tai

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ar unwaith, gall y cymorthfeydd galw heibio canlynol helpu. Nid oes angen i chi wneud apwyntiad, gallwch droi i fyny ar y diwrnod neu gysylltu ar y rhifau isod.

Sesiynau Galw Heibio am Gymorth Tai
DarparwrLleoliadDiwrnodAmserRhif Cyswllt

Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

Dydd Llun

9:30am - 1:00pm

01495 760390

Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau

9:30am - 4:00pm

01495 760390

Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai

Co-Star Food Bank Cwmbran

Dydd Iau

11:00am – 1:00pm

01495 760390

Platfform: Cymorth/cyngor ar Dai

Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl

Dydd Gwener

9:30am - 3:30pm

01495 760390

The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai

Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Dydd Mawrth - Mercher

9:00am -5:00pm

01495 366895

The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai

Canolfan Byd Gwaith Cwmbrân, 42 Sgwâr Gwent, Cwmbrân, NP44 1PL

Dydd Llun a Dydd Iau

9:00am - 4:00pm

01495 366895

The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai

Canolfan Byd Gwaith Pont-y-pŵl, Heol-y-Parc, NP4 6XQ

Dydd Mawrth

9:00am-12:00pm

01495 366895

The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai

Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Dydd Gwener

9:00am - 4:30pm

01495 366895

The Wallich: Cymorth/cyngor ar Dai/ POBL

Pearl House, 12 Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Dydd Sadwrn

9:30am - 1:00pm

01495 366895

Os yw eich sefyllfa dai yn un frys, fe' gewch eich atgyfeirio at ein Gwasanaeth Atebion Tai. Gallai sefyllfa frys gynnwys cysgu ar y stryd neu fod dan fygythiad agos o gael eich taflu allan.

Yna bydd y tîm yn asesu eich amgylchiadau personol ac yn penderfynu ar y cymorth y gallech fod â hawl i'w dderbyn.

Bydd cynllun gweithredu ar y cyd (Cynllun Tai Personol) yn cael ei gwblhau gyda chi. Bydd hyn yn nodi'r camau y bydd y Gwasanaeth Atebion Tai yn eu cymryd ar eich rhan a'r camau y bydd angen i chi eu cymryd i wella'ch sefyllfa.

D.S. Os ydych o dan 18 oed, cewch eich atgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol fydd yn asesu eich anghenion a'ch gofynion. Gall Gwasanaeth Pobl Ifanc Torfaen (TYPSS) gynnig help a chymorth i bobl ifanc 16 a 17 oed.

Beth allwch chi wneud os yw rhywun yn cysgu allan?

Mae yna ffyrdd gwahanol i chi helpu pobl sy’n cysgu allan, yn enwedig ar adeg o dywydd gwael.

Os ydych chi’n gwybod am rywun a allai fod yn cysgu allan, cysylltwch â Chyngor Torfaen i roi gwybod i ni ble maen nhw ac i’n helpu i gydlynu ymateb, Gallwch ddweud wrthym mewn un o dair ffordd:

  1. Ffonio Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200
  2. Rhoi’r wybodaeth trwy wefan Street Link neu’r ap, neu drwy
  3. Gysylltu â’n partneriaid The Wallich ar 01495 366895

Mae llawer o resymau pam fo pobl yn cysgu allan, felly gofynnir i aelodau’r cyhoedd barchu eu preifatrwydd ac osgoi cyhoeddi gwybodaeth am unigolion (a all fod yn agored i niwed) ar y cyfryngau cymdeithasol, gan y gall hyn olygu eu bod yn agored i risg.

Mae Cyngor Torfaen yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i gefnogi pobl sy’n ddigartref. Os ydych chi eisiau helpu pobl sy’n ddigartref, cysylltwch â’r Cyngor i gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.

Rydym yn croesawu eich cefnogaeth, ond byddwch yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun a diogelwch y person sy’n cysgu allan os gwelwch yn dda

Diwygiwyd Diwethaf: 21/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Digartrefedd

Ffôn: 01495 742302

E-bost: housingsolutions@torfaen.gov.uk

 

Mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig