Gwybodaeth i'r Cyhoedd

Rydym yn ymrwymo i roi gwybodaeth glir am wasanaethau gofal cymdeithasol i’r holl bobl yn Nhorfaen a allai fod angen cymorth nawr neu yn y dyfodol.

Ein nod hefyd yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gyfrifol am drefnu gwasanaethau i bobl agored i niwed yn y fwrdeistref.

Mae ein taflenni gwybodaeth yn dweud wrth bobl am y gwasanaethau a gynigiwn. Hefyd, rydym yn cyflwyno ein polisi codi tâl a’r meini prawf a ddefnyddiwn i bennu a yw pobl yn gymwys i’w hystyried ar gyfer gwasanaethau, a sicrhau mai’r bobl â’r anghenion mwyaf gaiff y flaenoriaeth uchaf. 

Cliciwch ar y dolenni isod i weld ein taflenni cyfredol

Mae'r holl gyhoeddiadau ar gael os gwneir cais amdanynt, a hynny yn rhad ac am ddim. Os hoffech archebu unrhyw rai o'r taflenni, anfonwch e-bost at SCHBusinesssupporthub@torfaen.gov.uk

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat hygyrch e.e. print bras, Braille, iaith heblaw am Saesneg neu ar dâp sain, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid Torfaen ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol a Thai

Ffôn: 01495 762200

E-bost: SCHBusinesssupporthub@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig