Datganiad o Fwriad ar gyfer Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Mae dogfen ymgynghorol ddiweddar Llywodraeth Cymru, ‘Fframwaith ar gyfer Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig’, yn nodi sut fydd uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwirioneddol integredig i bobl hŷn yn cael ei gweithredu. Rhagwelir y bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn well ac yn fwy cyson, ac yn cryfhau gofal sy’n seiliedig yn y gymuned. Daw asesiadau amlddisgyblaeth effeithiol i fod yn rhan o’r arfer gyffredin, daw rôl y Meddyg Teulu i fod yn fwy canolog a daw ymyrraeth gynnar, Ail-alluogi a Gofal Canolradd i fod yn rhan o un system wedi’i chydlynu.

Er mwyn symud y rhaglen waith hon yn ei blaen, mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar i Awdurdodau Lleol weithio mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd er mwyn gweithredu cyfres o gamau gweithredu penodol. Wrth symud y camau gweithredu hyn yn eu blaen, fe fydd Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Gwent gynt a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Y Datganiad o Fwriad a’r Cynllun Gweithredu canlynol yw’r Datganiad o Fwriad ar Ofal Integredig i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth rhwng Awdurdodau Lleol Gwent gynt a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â chydweithwyr o Awdurdodau Lleol Gwent gynt a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i ddarparu ymateb ar ran Awdurdod Lleol Torfaen, o fewn cyd-destun rhanbarthol trosfwaol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig