Arolygiad o'r Trefniadau ar gyfer Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA)

Ym mis Rhagfyr 2009, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) arolygiad o drefniadau Torfaen ar gyfer amddiffyn oedolion.

Roedd arolygiad Torfaen yn rhan o arolygiad cenedlaethol o drefniadau POVA ledled Cymru - arolygwyd pob un o'r 22 cyngor.

Roedd y trefniadau yn Nhorfaen ar gyfer dosbarthu'r llwyth gwaith yn gyfartal ymhlith uwch swyddogion dynodedig wedi gwneud argraff dda ar yr arolygwyr, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer cynnal grwpiau trafod rheolaidd lle y rhennir gwybodaeth arbenigol ac arfer da.

Yn ystod yr arolygiad, gwnaeth AGGCC y canlynol:

  • edrych ar effeithiolrwydd yr ymateb i honiadau ynghylch camdriniaeth
  • gwerthuso i ba raddau y mae polisïau a gweithdrefnau ar gyfer hybu amddiffyn yn gweithio'n dda, ac
  • ystyried pa mor gryf yw'r arweinyddiaeth a'r flaenoriaeth a roddir gan awdurdodau lleol gyda'u partneriaid er mwyn atal camdriniaeth ac ymateb yn effeithiol pan fydd camdriniaeth yn digwydd.

Roedd yr arolygiad yn cynnwys pwyslais penodol ar brofiad pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Fel rhan o'r broses arolygu, gwrandawodd AGGCC ar sylwadau a phrofiadau amrywiaeth eang o unigolion a phartneriaid, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol a'r rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau.

Yn ystod 2008-09, derbyniodd Torfaen 4.92 o atgyfeiriadau fesul mil o'r boblogaeth (yr uchaf yng Nghymru) sy'n dangos bod ymwybyddiaeth o faterion amddiffyn oedolion yn cynyddu yn y fwrdeistref.

I gael mwy o wybodaeth a chopi o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd, ewch i wefan AGGCC.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Uned Ddiogelu

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig