Cyfleoedd dydd i oedolion

Nod y Tîm Cyfleoedd Dydd yw galluogi pobl i fyw bywyd da gan wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod popeth yn dechrau gyda'r person. Mae ein holl wasanaethau yn canolbwyntio ar les, annibyniaeth, ac iechyd da.

Rydyn ni'n gwybod bod pawb yn wahanol, a bydd yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn fater unigol. Gallai hyn gynnwys:

  • Sefydlu a chynnal cyfeillgarwch, a mynediad i'r gymuned
  • Datblygu sgiliau, galluoedd, a gwybodaeth
  • Cyfrannu at ein cymunedau a rhannu ein cryfderau
  • Dilyn diddordeb neu hobi
  • Paratoi ar gyfer gwaith a gwirfoddoli
  • Sicrhau iechyd a lles emosiynol da

Er mwyn gwneud hyn rydym yn galluogi pobl i gynllunio eu cymorth gyda ni a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt er mwyn iddyn nhw gyflawni eu nodau personol.

I gael mynediad i'r gwasanaeth, yn gyntaf mae'n rhaid eich bod wedi derbyn asesiad gofal gan y tîm gwaith cymdeithasol.

I gael y manylion llawn gofynnwch am gopi o'n llyfryn hawdd ei ddarllen.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gweithgareddau Dydd

Ffôn: 01495 742261

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig