Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n gyfrifol am ofalu am, a thrin oedolion sy’n byw yn y gymuned, sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol a hirdymor.

Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnwys Meddygon, Nyrsys, Seicolegwyr, Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Cymdeithasol.

Mae yna 2 Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) wedi eu lleoli yn Uned Tal-y-garn, Ysbyty Sirol Pont-y-pŵl, sy’n gofalu am De a Gogledd y Fwrdeistref, a hynny i bobl 18 i 65 oed. Mae yna Dîm Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (TIMPH) wedi ei leoli yn Nhŷ Siriol, Ysbyty Sirol Pont-y-pŵl, i bobl dros 65 oed.

Mae cydweithio rhwng yr adran iechyd a gofal cymdeithasol yn hollbwysig i gyflawni gwasanaeth di-dor sy’n osgoi dyblygu ac annog tryloywder, atebolrwydd a chyfrifoldeb.

I gael mwy o wybodaeth neu i atgyfeirio at y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, cysylltwch â’ch Canolfan Gofal Cwsmeriaid leol ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig