Sut mae dewis cartref preswyl neu nyrsio?

Mae symud i gartref gofal yn benderfyniad mawr, ac felly trefnir pob lleoliad ar sail dros dro i ddechrau. 

Mae hyn yn rhoi cyfle i chi weld sut rydych yn ymgartrefu mewn cartref gofal cyn i chi wneud penderfyniad pendant am eich dyfodol. Mae hefyd yn golygu eich bod yn rhydd i drosglwyddo i gartref arall os nad ydych yn hoffi eich dewis cyntaf.

Mae'n bwysig eich bod yn dewis cartref gofal a fydd yn bodloni eich anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol, fel eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn byw yno. 

Gall feindio rhestr o Cartrefu preswyl yn torfaen yma.

Fel arall, os ydych yn chwilio am gartref gofal addas i oedolion, mae gwefan Cartrefigofal.Cymru yn caniatáu i chi chwilio am opsiynau sy’n bodloni eich anghenion. Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru. 

Bydd gofyn y cwestiynau canlynol i chi'ch hun yn eich helpu i ddewis cartref sy'n bodloni eich anghenion unigol:

Lleoliad

  • A yw wedi'i leoli mewn amgylchedd cyfarwydd yn agos i'm cymuned leol?
  • A fydd fy mherthnasau a'm ffrindiau yn gallu ymweld yn rhwydd?
  • A fydd rhaid i mi newid fy meddyg teulu?
  • A yw'r cartref yn agos i gludiant cyhoeddus, siopau neu gyfleusterau hamdden?

Yr ystafell

  • Os cynigir ystafell a rennir i mi, a fyddaf yn gallu cwrdd â'r unigolyn i weld a ydym ni'n cyd-dynnu cyn i mi wneud fy mhenderfyniad?
  • A fydd gennyf fy ystafell ymolchi fy hun? Os na, faint o bobl fydd yn rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi gyda mi?
  • A gaf i bersonoli fy ystafell, er enghraifft, drwy ddewis sut i'w haddurno, a dod â'm dillad gwely, llenni, eitemau bach o ddodrefn, addurniadau fy hun, ac ati?
  • Pa mor aml fydd fy nillad gwely'n cael eu newid?
  • A gaf i ddod â'm teledu a'm ffôn fy hun gyda mi i'w defnyddio yn fy ystafell?
  • A gaf i fy ffôn a'm rhif ffôn fy hun?
  • A gaf i ddefnyddio fy ystafell drwy gydol y dydd a mynd a dod oddi yno fel y mynnaf?
  • A gaf i ddewis pryd i godi a mynd i'r gwely?
  • Am ba mor hir y bydd fy ystafell yn cael ei chadw i mi os byddaf yn mynd ar wyliau neu'n gorfod mynd i'r ysbyty?

Cyfleusterau

  • A yw'n rhwydd symud o gwmpas bob rhan o'r cartref, y tu mewn a'r tu allan?
  • Os yw'r llety ar sawl llawr, a oes lifft?
  • A oes mannau ysmygu a dim ysmygu ar gael y tu allan?
  • A oes mwy nag un lolfa ar gael, er enghraifft, man 'tawel' ac ystafell deledu?
  • A gaf i gadw anifail anwes?
  • A oes man diogel ar gael i gadw fy eiddo gwerthfawr? A oes yswiriant wedi'i drefnu ar gyfer eiddo personol?

Prydau bwyd

  • A yw'r bwyd yn ddiddorol, yn amrywiol ac o ansawdd da?
  • A oes dewis, ac a fydd fy hoff a chas bethau'n cael eu hystyried?
  • A yw amserau prydau bwyd yn hyblyg?
  • A gaf i fwyta prydau bwyd yn fy ystafell fy hun os dymunaf wneud hynny?

Crefydd / Diwylliant

  • A yw'r cartref yn darparu ar gyfer fy anghenion crefyddol?
  • A yw'r cartref yn darparu ar gyfer fy anghenion ieithyddol a diwylliannol e.e. a oes staff sy'n siarad Cymraeg ar gael?

Amser hamdden

  • Pa fath o weithgareddau a ddarperir ar gyfer y preswylwyr?
  • A drefnir ymweliadau a theithiau?
  • A fyddaf yn gallu parhau i ddilyn fy niddordebau presennol yn ogystal ag ymuno â rhai newydd?
  • Os oes gardd yn y cartref, a allwn i helpu i'w chynnal?

Gwesteion

  • A yw'r amserau ymweld yn hyblyg?
  • Os wyf yn rhannu ystafell, a fyddaf yn gallu cael sgwrs breifat yn rhywle arall?
  • A oes cyfleusterau ar gael i wneud diod neu fyrbryd i'm gwesteion?
  • A oes cyfleusterau ar gael i ymwelwyr aros dros nos os oes angen?

Staff

  • Sut mae'r staff i'w gweld yn trin y preswylwyr?
  • A ydyn nhw'n groesawgar ac yn ofalgar?
  • Beth yw'r gymhareb staff: preswylwyr?
  • A ydyn nhw'n brofiadol a/neu'n gymwysedig?
  • A yw'r staff yn parchu preifatrwydd y preswylwyr?
  • Os bydd fy iechyd yn gwaethygu, a fydd y staff yn gallu darparu'r gofal nyrsio angenrheidiol?

Awyrgylch

  • Pa fath o awyrgylch sydd yn y cartref?
  • Beth yw'ch argraff gyntaf?
  • Sut mae'n teimlo i chi? A ydych chi'n credu y gallech ymgartrefu a bod yn hapus yno?

Mae hefyd yn bwysig gofyn a yw'r cartref yn codi tâl am wasanaethau ychwanegol. Gallai hyn gynnwys trin gwallt, papurau newydd, galwadau ffôn, sychlanhau, trin traed, teithiau a gweithgareddau hamdden eraill.

Eich penderfyniad chi yw dewis cartref gofal felly mae'n bwysig eich bod yn gofyn cynifer o gwestiynau ag sydd eu hangen cyn penderfynu. Mae'n bosibl y bydd rhai cartrefi'n gallu cynnig cyfle i chi aros yno am gyfnod byr i'ch helpu i benderfynu. 

Os oes gennych chi unrhyw amheuon, peidiwch ag ymrwymo yn syth. Rhowch ddigon o amser i'ch hun i ystyried yr holl ddewisiadau yn ofalus cyn gwneud y penderfyniad pwysig hwn. 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig