Talu am Wasanaeth Gofal Cymdeithasol

Mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen yn codi tâl am wasanaethau gofal cartref a gofal dydd. Mae'r taliadau yn seiliedig ar eich gallu i dalu, felly mae'r swm sydd angen i bob person ei dalu yn wahanol.

Mae rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen yn rhad ac am ddim - yn cynnwys asesu, gwybodaeth a chyngor.

Yr uchafswm y gofynnir i chi ei dalu tuag wasanaethau gofal cartref a gofal dydd yw £100 yw wythnos, waeth faint o oriau o ofal a gewch. Fodd bynnag, oherwydd yr ystyrir gallu'r person i dalu, efallai y bydd y swm gwirioneddol yr ydych yn ei dalu yn is na £100, neu efallai na fydd unrhyw dâl o gwbl.

Mae eich angen am wasanaethau gofal yn cael ei asesu gan Reolwr Gofal cyn i’r ffioedd gael eu cyfrifo.

Mae gwybodaeth ynghylch y ffioedd a godir am ein gwasanaethau wedi ei nodi mewn ffeithlenni ar wahân isod:

Codir un ffi ar wahân am brydau bwyd. Am ragor o wybodaeth ewch i'n hadran Prydau Ccymunedol.

Yn ogystal, nid ydym yn codi tâl am gludiant i fynychu canolfan ddydd lle caiff ei ddarparu gan, neu ei drefnu gan, Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Torfaen, ac os yw'r cludiant hwnnw wedi ei gynnwys yn yr asesiad o'ch anghenion.

Mae ein Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau ar gael (am ddim) i unrhyw un sy'n derbyn gwasanaethau cartref neu ofal dydd. Gallwn ni wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fuddion a phensiynau y mae gennych hawl i'w derbyn os byddwch yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Mewn rhai amgylchiadau, byddwch yn cael eich atgyfeirio'n awtomatig am Gyngor ar Fudd-daliadau, a byddant yn cysylltu â chi yn uniongyrchol. Os oes angen ichi gysylltu â nhw, gwnewch hynny, ar y rhif isod. Bydd swyddog ar gael i'ch helpu i lenwi unrhyw ffurflenni cais a bydd yn dilyn y camau hawlio wedi hynny i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr hyn y dylech ei dderbyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Refeniw a Budd-daliadau (Tîm Asesu Ariannol)

Ffôn: 01495 762200

E-bost: financialassessments@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig