Prydau Cymunedol

Mae Torfaen yn cynnig gwasanaeth prydau yn y gymuned i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain ond sy'n methu paratoi eu prydau eu hunain. Er bod llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn bobl hŷn, mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy'n methu paratoi pryd bwyd oherwydd eiddilwch, salwch neu anabledd, yn amodol ar ein meini prawf cymhwysedd.

Gall y gwasanaeth prydau yn y gymuned gael ei drefnu am gyfnodau amrywiol. Mae rhai pobl yn defnyddio'r gwasanaeth am gyfnod byr ar ôl dod allan o'r ysbyty neu tra bod eu gofalwr i ffwrdd; mae eraill yn defnyddio'r gwasanaeth ar sail hirdymor.

Os hoffech chi atgyfeirio am brydau cymunedol, cwblhewch y ffurflen Gofyn am Brydau Cymunedol/Pryd ar Glud, holwch eich rheolwr gofal neu ffoniwch 01495 762200.

Prydau bwyd poeth

Rydym yn dosbarthu pryd bwyd poeth a phwdin i'r bobl sy'n gymwys, rhwng 11.30am a 2.00pm, saith diwrnod yr wythnos. Y gost ar hyn o bryd yw £6.30 y pryd. Mae bwydlen wythnosol ar gael, gyda dewis o bedwar pryd a phedwar pwdin bob dydd.

Rydym hefyd yn cynnig hambwrdd amser te. Dosberthir yr hambwrdd yn ystod amser cinio gyda'ch prif bryd poeth. Gall yr hambwrdd te gynnwys hyd at 3 eitem gyda dewis o gawl, brechdanau a phwdinau. Cost yr hambwrdd te yw £1.60 am 1 eitem, £2.40 am 2 eitem a £3.40 am 3 eitem.

Mae canolfan gofalwyr Gwent mae'n cynnig cymorth a chyngor i ofalwyr sy'n byw ar draws y fwrdeistref.

Nid oes rhaid i chi gael pryd bob dydd - gall y gwasanaeth gael ei drefnu am gynifer o ddiwrnodau ag y mae ei angen.

Prydau wedi'u rhewi

Gallwn hefyd drefnu i ddosbarthu prydau wedi'u rhewi i bobl sydd angen rhywfaint o gymorth ond sy'n gallu cynhesu'r prydau eu hunain neu sydd â gofalwyr a all wneud hyn drostynt. Gallwch ddewis eich prydau bwyd o Fwydlen - sef catalog gyda ffotograffau o brydau unigol. Yr archeb leiaf ar gyfer prydau wedi'u rhewi yw saith pryd.

Rydym yn dosbarthu ar ddydd Gwener ond gellir gwneud hynny bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis fel y bo'n addas i'r cwsmer. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan Wiltshire Farm Foods. Dylid talu am y prydau wedi'u rhewi gydag arian parod neu siec pan fyddant yn cael eu dosbarthu. Ar hyn o bryd, cost y prydau wedi'u rhewi yw £2.79 am brif gwrs a phwdin.

Cwestiynau Cyffredin

Dosbarthu prydau bwyd poeth

Mae prydau bwyd poeth yn cael eu dosbarthu gan ein tîm cyfeillgar o yrwyr sydd wedi cael hyfforddiant i roi eich lles a'ch diogelwch chi yn gyntaf. Mae gan bob gyrrwr gerdyn adnabod sy'n dangos llun clir ohono ef neu ohoni hi, fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl. 

Fel arfer, bydd prydau bwyd poeth yn cael eu dosbarthu rhwng 11.30 am a 2.00 pm, saith diwrnod yr wythnos (ond nid oes rhaid i chi gael pryd bob dydd). 

Mae'n bosibl y bydd amser dosbarthu rheolaidd yn cael ei sefydlu, ond rhaid caniatáu weithiau am dywydd gwael, traffig trwm a gyrwyr dros dro sy'n gorfod dysgu llwybr newydd.

Cael y mwyaf o'r gwasanaeth pryd ar glud

Dylech fwyta prydau bwyd poeth pan fyddwch chi'n eu derbyn. Nid ydym yn argymell bod unrhyw ran o'r pryd yn cael ei chadw i'w bwyta'n ddiweddarach yn y dydd neu'r diwrnod canlynol. Mwynhewch eich bwyd tra'i fod yn ffres ac yn gynnes!

A fyddaf yn gallu defnyddio'r gwasanaeth os wyf yn dilyn deiet arbennig?

Yn ogystal â'n dewis helaeth o brydau bwyd poeth, rydym ni'n darparu ar gyfer y deietau arbennig canlynol:

  • Diabetig
  • Braster isel
  • Deiet bwydydd meddal
  • Sodiwm isel
  • Llysieuol
  • Dim glwten
  • Deiet colli pwysau

Beth yw pris pryd ar glud?

Mae cost prydau'n cael ei hadolygu'n flynyddol. Y gost ar hyn o bryd yw £6.30 y pryd am bryd poeth a £2.79 am bryd wedi'i rewi (mae prif gwrs a phwdin wedi'u cynnwys yn y ddau bris).

Sut byddaf i'n talu am fy mhrydau?

Mae sawl ffordd o dalu:

Prydau bwyd poeth:

  • Debyd Uniongyrchol - Ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau byddwn yn anfon Ffurflen Debyd Uniongyrchol. Ar ôl eu sefydlu, cesglir taliadau ar yr 20fed o bob mis. Byddwch yn derbyn cyfriflen bob mis yn nodi'r swm a gesglir
  • Cerdyn/Siec - Os nad ydych yn dymuno talu trwy Ddebyd Uniongyrchol anfonir anfoneb yn fisol. Gallwch dalu hwn dros y ffôn gyda cherdyn neu gellir anfon siec

Prydau wedi'u rhewi:

Dylid talu am brydau bwyd wedi'u rhewi gydag arian parod neu siec pan fyddant yn cael eu dosbarthu i chi. 

Beth sy'n digwydd os bydd angen i mi ganslo?

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwybod os na fyddwch chi gartref pan gaiff eich pryd ei ddosbarthu i chi.

Bydd ein gyrwyr yn rhoi gwybod i ni os nad ydych yn ateb y drws ac efallai y bydd angen i ni ffonio rhywun i gadarnhau eich bod chi'n ddiogel ac yn iach.

Os na fyddwn ni'n gallu siarad â pherthynas neu gymydog a'n bod yn bryderus iawn amdanoch, mae'n bosibl weithiau y bydd angen i ni roi gwybod i'r heddlu. Efallai y bydd angen i'r heddlu gael mynediad i'ch cartref i wneud yn siwr nad ydych yn sâl ac yn methu galw am help.

Os ydych chi'n dymuno canslo prydau naill ai am gyfnod byr neu gyfnod hir, e.e. os ydych chi'n gorfod mynd i'r ysbyty, yn mwynhau diwrnod allan neu'n mynd ar wyliau, rhowch wybod i ni.

Clybiau cinio

Os ydych chi'n gallu mynd o gwmpas y lle, mae nifer o glybiau cinio yn Nhorfaen sy'n cynnig pryd bwyd poeth am ryw £5.00 am bryd dau neu dri chwrs. 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Rheolwr Gofal neu ffoniwch 01495 762200.

Sylwadau a Chwynion

Os nad ydych yn fodlon ar safon neu gynnwys eich pryd bwyd neu unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a gynigiwn, dylech gysylltu â'r rheolwr prydau yn y gymuned gan ddefnyddio'r rhif ffôn neu'r cyfeiriad isod. Neu, gallwch gysylltu â'ch canolfan gofal cwsmeriaid lleol.

Byddwn yn falch iawn o ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am y gwasanaeth.

Rheolwr Prydau yn y Gymuned
Y Tîm Gofal Personol
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Diwygiwyd Diwethaf: 01/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Prydau yn y Gymuned

Ffôn: 01495 766373

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig