Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus?

Gofal Iechyd Parhaus (GIP) y GIG yw’r enw a roddir i becyn o wasanaethau sydd yn cael ei drefnu a’i ariannu’n llwyr gan y GIG I’r bobl hynny sydd wedi derbyn asesiad sy’n datgan bod ganddynt brif angen iechyd. Gallwch dderbyn GIP mewn unrhyw leoliad yn cynnwys eich cartref eich hun neu unrhyw gartref gofal.

Mae yn eich cartref eich hun yn golygu y bydd y GIG yn talu am ofal iechyd (ee gwasanaethau gan nyrs gymunedol neu therapydd arbenigol) a gofal cymdeithasol, ond nid yw’n cynnwys costau bwyd, llety neu gymorth cyffredinol yn y cartref.

Mewn cartref gofal, os ydych yn gymwys i dderbyn GIP, mae’r GIG yn talu am eich ffioedd cartref gofal, yn cynnwys lluniaeth a llety.

Ariennir GIP gan y GIG, sy’n wahanol i’r help gan y gwasanaethau cymdeithasol y gellir codi tâl amdano, ar sail eich incwm, cynilion ac asedau cyfalaf.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yn Taflen Gofal Iechyd Parhaus y GIG,ac mae'n cynnwys:

  • Pwy sy’n gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus y GIG?
  • Sut fydd fy mhrif anghenion iechyd yn cael eu hasesu?
  • Pwy fydd yn rhan o’r asesiad a phwy fydd yn penderfynu a wyf yn gymwys?
  • A oes rhaid i mi gytuno i gael asesiad?
  • Beth os byddaf yn gwrthod cael fy asesu, neu’n rhoi caniatâd a newid fy meddwl?
  • Beth os cafwyd fy mod yn gymwys a minnau’n gwrthod y pecyn gofal fydd yn cael ei gynnig gan y GIG?
  • Bydd fy anghenion gofal yn cael eu hasesu?
  • Beth os nad wyf yn gymwys i dderbyn gofal iechyd parhaus y GIG?
  • Beth yw Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG?
  • Pwy sy’n gymwys i dderbyn Gofal Nyrsio a Ariennir?
  • Beth wyf yn gwneud os nad wyf yn hapus â chanlyniad yr asesiad?
  • O ble gallaf gael mwy o wybodaeth am ofal iechyd parhaus y GIG neu Ofal Nyrsio a Ariennir?
Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig