Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn amser anodd iawn i chi. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, rhowch wybod i ni trwy ffonio Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200.

Bydd ymgynghorydd yn gofyn am rai manylion oddi wrthych ac yn rhoi gwybod i'r adrannau priodol ar eich rhan. Os oedd yr ymadawedig yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, bydd yr ymgynghorydd yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol:

  • enw'r gweithiwr cymdeithasol neu'r tîm gwaith cymdeithasol os ydych chi'n ei wybod e.e. ymyrraeth gymunedol, rheoli gofal
  • manylion unrhyw becynnau gofal a gafwyd, fel pryd ar glud, gweithgareddau dydd, gofal personol
  • a oes angen dychwelyd unrhyw offer arbenigol e.e. cadair olwyn neu declyn codi (neu gallwch drefnu hyn eich hun trwy ffonio'r Gwasanaeth Pobl Anabl ar 01633 648484)
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol a Thai

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig