Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru

Mae cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn cynnig cyfle i bobl dderbyn cefnogaeth yng nghartrefi gofalwyr a chymunedau lleol. Yn y cynllun, mae oedolyn sydd ag anghenion gofal neu gymorth yn cael ei baru â gofalwr addas. Mae gofalwyr yn rhannu eu cartref, eu teulu, a bywyd cymunedol gyda'r unigolyn, gan helpu i ddatblygu a chynnal sgiliau byw'n annibynnol, cyfeillgarwch a chysylltiadau yn eu hardal leol.

Mae'r cynllun yn cynnig trefniadau Cysylltu Bywydau yn chwe ardal awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Mathau o leoliadau i oedolion

Mae'r cynllun Cysylltu Bywydau yn cynnig llety a / neu gefnogaeth i bobl yng nghartref y gofalwr a'r gymuned leol. Anogir gofalwyr i rannu eu bywyd teuluol, eu bywyd cartref a gweithgareddau cymdeithasol gyda phobl sydd angen cefnogaeth. Mae pobl sy'n cyrchu lleoliadau oedolion yn cael eu paru'n ofalus â gofalwyr medrus, gan eu galluogi i feithrin annibyniaeth a dysgu sgiliau newydd, gwneud dewisiadau a chymryd rhan mewn profiadau newydd.

Mae trefniadau Cysylltu Bywydau wedi'u teilwra i anghenion a gofynion yr unigolyn. Mae'n hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi ystod eang o bobl sydd angen cefnogaeth i fyw bywydau mwy annibynnol.

Y mathau o drefniadau sydd ar gael yw:

  • Tymor hir - Llety a chefnogaeth yng nghartref y gofalwr yn y tymor hir, gyda'r cyfle i fod yn rhan o fywyd teuluol, gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau cartref.
  • Seibiant - Seibiant gyda theulu sy'n cynnig lleoliad i oedolion mewn cartref cyffredin. Mae pobl yn aml yn dychwelyd i'r un teulu i gael seibiant rheolaidd, gan roi cyfle i unigolion feithrin a chynnal perthnasoedd, dysgu sgiliau newydd, a chael profiadau newydd.
  • Argyfwng - Darperir llety a chefnogaeth ar fyr rybudd, o bosibl oherwydd argyfwng teuluol neu salwch.
  • Cefnogaeth sesiynol - Cefnogaeth gan ofalwr Cysylltu Bywydau yn ystod y dydd, gyda'r nos neu ar benwythnosau. Gellir cynnig y gefnogaeth yng nghartref y gofalwr neu yn y gymuned leol. Mae'r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i anghenion, a gall gynnwys ystod eang o weithgareddau, gan annog unigolion i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a chael mwy o annibyniaeth.
  • Cefnogaeth i atal mynd i mewn i'r ysbyty.
  • Cefnogaeth tymor byr yn dilyn rhyddhau o'r ysbyty.

Pwy all ddefnyddio’r cynllun?

Mae Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn cynnig trefniadau ar gyfer pobl dros 18 oed gydag ystod eang o anghenion cymorth, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, anghenion iechyd meddwl a phobl hŷn.

Efallai y bobl sy'n defnyddio'r cynllun angen cefnogaeth gydag agweddau penodol ar eu bywydau, neu efallai y bydd angen cefnogaeth arnynt trwy'r amser.

Mae Cysylltu Bywydau yn cynnig mathau eraill o gefnogaeth a llety. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Gysylltu Bywydau gallwch drafod hyn gyda'ch gweithiwr cymdeithasol.

Sut i ddod yn ofalwr

Gall pobl o bob cefndir wneud cais: mae pobl sengl, cyplau a theuluoedd, o amrywiaeth eang o gefndiroedd a diwylliannau yn dod yn ofalwyr Cysylltu Bywydau. Nid oes angen i chi feddu ar gymwysterau ffurfiol oherwydd bydd y cynllun yn darparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â: sensitifrwydd a chynhesrwydd, ymrwymiad, synnwyr digrifwch, diddordeb mewn helpu pobl eraill,  cartref sefydlog, ac amser i gynnig i rywun sydd angen cefnogaeth mewn agweddau ar eu bywyd. Os oes gennych y rhinweddau hyn a chartref addas i'w rannu â pherson arall, cysylltwch â ni.

Ar ôl i chi fod trwy ein proses asesu gallwch benderfynu ar y math o drefniant Cysylltu Bywydau yr hoffech ei gynnig; bydd eich gweithiwr lleoli oedolion yn eich cefnogi gyda hyn. Bydd eich gweithiwr Cysylltu Bywydau hefyd yn sicrhau eich bod yn cael eich paru'n ofalus â phobl rydych chi'n debygol o ddod ymlaen â nhw.

Telir ffi i ofalwyr ar gyfer yr holl drefniadau Cysylltu Bywydau y maen nhw’n eu darparu. Mae lefel y ffi yn amrywio yn ôl y math o drefniant rydych chi'n ei gynnig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am ddod yn ofalwr, ffoniwch 01443 864586 neu e-bostiwch adultp@caerphilly.gov.uk.

Hyfforddiant a chefnogaeth

Mae'r holl ofalwyr sy'n cynnig trefniadau ar gyfer y cynllun wedi'u dewis yn ofalus, ac wedi bod trwy broses asesu drylwyr.

Cynigir hyfforddiant i ddarpar ofalwyr yn ystod y broses asesu, a chynigir hyfforddiant parhaus rheolaidd iddynt ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo. Mae'r cynllun wedi ymrwymo i gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau gofalwyr ac mae hon yn cael ei hystyried yn broses barhaus.

Mae'r cyrsiau hyfforddi a gynigir i gyd yn berthnasol i'r rôl o ddarparu gofal a chefnogaeth i oedolion ag anghenion gofal a chymorth. Cynigir hyfforddiant arbenigol hefyd i ofalwyr, hyfforddiant sy'n berthnasol i anghenion penodol yr unigolyn y maen nhw'n ei gefnogi.

Mae pob gofalwr Cysylltu Bywydau wedi'i gysylltu â gweithiwr Cysylltu Bywydau. Mae gweithwyr Cysylltu Bywydau yn ymweld â gofalwyr yn eu cartref i fonitro a chefnogi'r trefniadau, i drafod sut mae'r trefniadau'n mynd, ac i gynnig arweiniad.

Ar hyn o bryd mae mwy na 200 o aelwydydd yn darparu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru. Mae tîm staff y cynllun yn cynnwys deuddeg o weithwyr Cysylltu Bywydau, tri chydlynydd Cysylltu Bywydau, tri rheolwr, a thîm ymroddedig o staff gweinyddol.

Cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd i ofalwyr mewn gwahanol leoliadau ledled De-ddwyrain Cymru. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i ofalwyr gwrdd â'i gilydd, ac i drafod Cysylltu Bywydau fel rhan o grŵp. Mae staff o'r cynllun Cysylltu Bywydau yn mynychu ac yn hwyluso'r cyfarfodydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/11/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymunedol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig