Trawsnewid ADY

ADY a’r Tribiwnlys Addysg 2018

Mae’r dull o ddarparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu yn newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth newydd, a elwir yn Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) (y Ddeddf), a gefnogir gan y Cod (Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol). Bydd y Ddeddf a’r Cod yn disodli’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau presennol ynghylch anghenion addysgol arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system fwy hyblyg ac ymatebol o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau ac yn ymdrechu i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol i ddysgwyr yng Nghymru.

Bydd y system newydd yn sicrhau:

  • anghenion yn cael eu nodi'n gynnar, yn cael sylw cyflym a bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial
  • bod gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus o ran nodi anghenion a defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i ddysgu.
  • bod y dysgwr wrth galon popeth a wnawn a’u bod nhw a’u rhieni a’u gofalwyr yn bartneriaid cyfartal yn y dysgu (Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn)

O 1 Medi, 2021 bydd y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)  sy’n cael ei nodi yn Y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n llawn dros flynyddoedd 2021/22, 2022/23 a 2023/24 mewn ysgolion.

Bydd awdurdodau Lleol, Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD) yn symud plant sy’n syrthio o fewn y blynyddoedd mandedig, o’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) sydd eisoes yn bodoli i’r system ADY, yn ystod cyfnod gweithredu tair blynedd fel a ganlyn:

  • Tymor y Gwanwyn a’r Haf, blwyddyn ysgol 2021/22: Meithrin 1, Meithrin 2, Blwyddyn1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7, Blwyddyn 10
  • Blwyddyn ysgol 2022-23: Meithrin 1, Meithrin 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 5, Blwyddyn 9, a Blwyddyn 10.
  • Blwyddyn ysgol 2023-24: Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 ac unrhyw ddisgyblion eraill ag AAA (a oedd ar gofrestri ysgolion ar 1 Ionawr 2022) na wnaethant symud i’r system ADY yn ystod blynyddoedd un a dau y cyfnod gweithredu.

Ni fydd disgyblion sydd â datganiadau AAA neu sydd wrthi’n cael asesiad statudol yn trosglwyddo i’r system newydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22.

Dyma rhai o’r negeseuon allweddol ynglŷn â’r newidiadau a’r hyn y gallent ei olygu i chi a’ch plentyn.

Mae'r system raddedig bresennol o Weithredu gan y Blynyddoedd Cynnar/ Ysgol, Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar/yr Ysgol a Mwy, a Datganiadau yn cael ei disodli dros y tair  blynedd nesaf. Bydd gan blant a phobl ifanc y canfuwyd fod ganddynt angen dysgu ychwanegol sy'n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDU) fel y cyflëir yn y ddeddf, Gynllun Datblygu Unigol (CDU).

Bydd y CDU yn disodli'r holl gynlluniau unigol eraill. Bydd awdurdodau lleol yn cynnal Cynlluniau Datblygu Unigol i blant dan oedran ysgol gorfodol, sydd eu hangen e.e. yn y blynyddoedd cynnar.

  • Ysgolion fydd yn cynnal y rhan fwyaf o Gynlluniau Datblygu Unigol, ond pan ystyrir bod hyn yn afresymol i’r ysgol ei wneud, gall yr Awdurdod Lleol fynd ati i wneud hynny.
  • Bydd yr Awdurdod Lleol yn gyfrifol am y CDU ar gyfer disgyblion blynyddoedd cynnar, disgyblion sy'n derbyn gofal, disgyblion sydd wedi'u cofrestru'n ddeuol, rhai sy'n cael eu cadw dan orchymyn, a disgyblion sy'n mynychu darpariaethau arbenigol.
  • Mae’r Ddeddf yn disgwyl y bydd yr holl bartneriaid fel Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydweithio i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.
  • Bydd mwy o gyfle i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr gyfrannu at greu a chynnal CDU drwy Gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

Disgwylir y dylai cydweithio'n agosach helpu i osgoi anghytundebau.

  • Cymerir pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg, os bydd angen.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y dull gweithredu yn ystod blwyddyn ysgol 2021/22 yn ddilyniannol, gyda’r system ADY yn cychwyn ar gyfer grwpiau penodol o blant ar 1 Medi 2021 ac ar 1 Ionawr 2022. Yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd y system ADY yn gweithredu ochr yn ochr â’r system AAA, a ddaw i ben yn raddol yn ystod y cyfnod gweithredu.

O 1 Ionawr 2022, bydd y system ADY yn cychwyn ar gyfer plant sy'n mynychu ysgolion a gynhelir (gan gynnwys UCD) ym Mlynyddoedd Meithrin 1 a 2 (M1 a M2) a Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7, a Blwyddyn 10 sydd â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar / gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu gan yr ysgol / gweithredu gan yr ysgol a mwy. Nid yw disgyblion â datganiadau AAA yn cael eu cynnwys yn hyn.

Bydd ysgolion ac UCD yn penderfynu a oes gan blant sy’n perthyn i unrhyw rai o’r blynyddoedd mandadol hyn ADY o fewn ystyr y Ddeddf. Ar ôl penderfynu a oes gan blentyn ADY o fewn ystyr y Ddeddf, bydd yr ysgol neu’r UCD yn cyhoeddi 'hysbysiad CDU' neu 'hysbysiad dim CDU'. Yr hysbysiad CDU, neu’r hysbysiad dim CDU, sy’n symud plentyn o’r system AAA i’r system ADY.

Os yw dysgwr yn y garfan fandadol, gallwch chi neu'ch plentyn ofyn i gael symud i'r system ADY yn gynharach nag yr oedd yr Awdurdod Lleol, yr ysgol neu'r UCD wedi'i fwriadu. Gellir gwneud hyn drwy ofyn am gyhoeddi hysbysiad CDU.

Bydd llythyrau a gwybodaeth yn cael eu darparu gan ysgolion/ALl i amlinellu’r newid i’r system a bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn gohebiaeth ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd i ddysgwyr unigol wrth iddynt drosglwyddo i’r system newydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau ar gael drwy ddilyn y ddolen isod https://gov.wales/additional-learning-needs

Diffinio ADY o God ADY 2021

"Anghenion dysgu ychwanegol" neu 'ADY"

  • Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (boed yr anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
  • Mae gan blentyn o oed ysgol gorfodol neu unigolyn dros yr oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hiMae gan blentyn o dan oed ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi, neu fe fyddai ef neu hi yn debygol o fod yn isadran (2) pan fyddai o oed ysgol gorfodol, pe na fyddai yna ddarpariaeth ddysgu wedi cael ei wneud.
    • yn cael anhawster sylweddol fwy wrth ddysgu na’r mwyafrif o’r lleill o’r un oedran, neu
    • os oes ganddo/ganddi anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sydd yn ei atal/hatal neu’n ei rwystro/rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o’r math a ddarperir yn gyffredinol i eraill o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau ffrwd yn y sector addysg bellach, neu;

"Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol" neu "DDY"

  • Mae "Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol" i unigolyn tair oed neu hŷn yn golygu darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddi sydd yn ychwanegol, neu’n wahanol i’r hyn a wneir yn gyffredinol i eraill o’r un oedran mewn
    • ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,
    • sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
    • lleoedd yng Nghymru lle darperir addysg feithrin.
  • Mae "darpariaeth ddysgu ychwanegol" i blentyn dan dair oed yn golygu darpariaeth addysg o unrhyw fath.
  • Yn isadran (1), mae "addysg feithrin" yn golygu addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd dan oedran ysgol gorfodol.

Wrth wneud y penderfyniad a oes angen CDU ar yr unigolyn ifanc, bydd yr ysgol yn ystyried a oes gan y disgybl ADY sydd angen DDY. Gall darpariaeth ddysgu ychwanegol fod ar sawl ffurf; Gellir darparu'r cymorth mewn grwpiau bach, yn unigol neu ddarpariaeth bwrpasol. Darperir hyn fel arfer gydag adnoddau’r ysgol ond gall gynnwys cymorth a chyngor/gwasanaeth gan wasanaeth ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol.

Gall DDU i rai dan dair oed fod ar sawl ffurf; er enghraifft, gwaith grŵp neu gefnogaeth unigol - lle mae'r disgybl yn mynychu darpariaeth addysgol o unrhyw fath. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cymorth iechyd, corfforol, cyfathrebu neu gymorth synhwyraidd arbenigol yn eu lleoliad addysg.

Mae mwyafrif y plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar/ysgolion/colegau prif ffrwd trwy ddarpariaeth a gwasanaethau cyffredinol. Mae gan bob ysgol fap darpariaeth sy'n nodi eu hymateb graddedig i ddiwallu anghenion disgyblion gyda'r cymorth a'r ymyriadau y maent wedi'u datblygu fel dull ysgol gyfan i ddiwallu anghenion y myfyrwyr ar eu cofrestr. Mae gan bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yn Nhorfaen gyllideb ADY bwrpasol i gynllunio’r cymorth a’r ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu eu hysgol.

Mae Gwasanaethau ADY a Chynhwysiant Canolog yr Awdurdod Lleol yn gweithio ar y cyd â’r unigolyn ifanc/rhieni/gofalwyr/ysgolion ac asiantaethau eraill gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu y gallai fod ganddynt ADY.

Mathau o Angen

Cyfathrebu a rhyngweithio

Mae plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (ALIC) yn cael anhawster i gyfathrebu ag eraill. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn cael anhawster dweud yr hyn y maent am ei ddweud, deall yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthynt neu nad ydynt yn deall neu'n defnyddio rheolau cyfathrebu cymdeithasol. Mae’r proffil ar gyfer pob plentyn ag ALIC yn wahanol a gall eu hanghenion newid dros amser. Gallant gael anhawster gydag un, rhai neu bob un o'r agweddau gwahanol ar leferydd, iaith, neu gyfathrebu cymdeithasol ar wahanol adegau o'u bywydau.

Mae plant a phobl ifanc ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, gan gynnwys Syndrom Asperger ac Awtistiaeth, yn debygol o gael anawsterau gyda rhyngweithio cymdeithasol. Gallant hefyd wynebu anawsterau gydag iaith, cyfathrebu, a dychymyg, a all effeithio ar y modd y maent yn ymateb i eraill.

Gwybyddiaeth a dysgu

Efallai y bydd angen cymorth ar gyfer anawsterau dysgu pan fydd plant a phobl ifanc yn dysgu’n arafach na’u cyfoedion, hyd yn oed gyda gwahaniaethu priodol*. Mae anawsterau dysgu yn cwmpasu ystod eang o anghenion, gan gynnwys Anawsterau Dysgu Cymedrol (MLD), Anawsterau Dysgu Difrifol (SLD), lle mae plant yn debygol o fod angen cymorth ym mhob maes o’r cwricwlwm ac anawsterau sy’n gysylltiedig â symudedd a chyfathrebu, ac Anawsterau Dysgu Ddifrifol a Lluosog, lle mae plant yn debygol o fod ag anawsterau dysgu difrifol a chymhleth yn ogystal ag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau.

Mae Anawsterau Dysgu Penodol (ADP) yn effeithio ar un neu fwy o agweddau penodol ar ddysgu. Mae hyn yn cwmpasu ystod o gyflyrau fel dyslecsia, dyscalcwlia, a dyspracsia.

*Nid yw pob plentyn yn datblygu ar yr un amser. Mae rhai yn gweld dysgu'n hawdd ac yn datblygu'n gyflymach; tra bod eraill yn cael trafferth gyda thasgau neu sgiliau penodol ac yn datblygu'n arafach. Felly, gosodir gwaith i bob plentyn, ar ei lefel neu ei allu ei hun. Gelwir hyn yn Ddysgu ‘Gwahaniaethol’.

Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl

Gall plant a phobl ifanc wynebu ystod eang o anawsterau cymdeithasol ac emosiynol sy'n ymddangos mewn sawl ffordd. Gall y rhain gynnwys mynd yn dawedog neu'n unig, yn ogystal ag ymddwyn yn heriol, yn aflonyddgar neu'n tarfu. Gall yr ymddygiadau hyn adlewyrchu anawsterau iechyd meddwl sylfaenol fel gorbryder neu iselder, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta neu symptomau corfforol nad oes esboniad meddygol amdanynt. Gall fod gan blant a phobl ifanc eraill anhwylderau fel diffyg canolbwyntio, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu anhwylder ymlyniad.

Anghenion synhwyraidd a / neu gorfforol

Mae angen darpariaeth addysgol ychwanegol ar rai plant a phobl ifanc oherwydd bod ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol. Gall yr anawsterau hyn fod yn gysylltiedig ag oedran a gallant amrywio dros amser. Bydd angen cymorth a/neu offer arbenigol ar lawer o blant a phobl ifanc â Nam ar y Golwg (NG), Nam ar y Clyw (NC) neu Nam Amlsynhwyraidd (NA) i gael mynediad at ddysgu, neu gymorth ymsefydlu*. Mae gan blant a phobl ifanc â NA, gyfuniad o anawsterau golwg a chlyw.

* Mae rhai plant a phobl ifanc ag Anabledd Corfforol (AC) angen cymorth ychwanegol parhaus ac offer er mwyn iddynt gyrchu’r un cyfleoedd sydd r gael i’w cyfoedion.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/06/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig