Plant Sy'n Cael eu Cyflogi'n Rhan Amser

Mae rheolau a rheoliadau caeth ynghlwm â chyflogi plant sy’n eu diogelu rhag niwed neu gamfantais ac sy’n sicrhau nad yw eu hiechyd na’u haddysg yn dioddef.

Yr Awdurdod Lleol yw’r asiantaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio’r plant sydd yn gweithio’n rhan amser ac am erlyn unrhyw gyflogwr sy’n torri’r gyfraith. Y Gwasanaeth Lles Plant sy’n gyfrifol am hyn yn Nhorfaen.

Rhaid i blentyn fod wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 13 oed cyn y gellir gwneud cais am drwydded gwaith.

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd o dan oedran addysg orfodol (y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan maen nhw’n cael eu pen-blwydd yn 16). Dydy’r ffaith bod gan blentyn Rif a Cherdyn Yswiriant Gwladol ddim yn golygu y gall y plentyn gael swydd llawn amser a/neu adael ysgol.).

Cyfrifoldebau’r Cyflogwr

Rhaid i bob plentyn o oedran ysgol sy'n gweithio'n rhan amser i gyflogwr, p'un ai yw’n derbyn tâl neu'n gweithio'n wirfoddol, fod wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol a chael trwydded gwaith. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn gallu cyflogi'r plentyn.

Os ydych chi, fel cyflogwr am gyflogi plant mae'n rhaid i chi lynu at y rheolau a'r rheoliadau sy'n rheoli faint o oriau gall y plentyn weithio, pa fath o waith all ef neu hi ei wneud a pha fath o adeilad y gall weithio ynddo.

Rhaid i’r cyflogwr gynnal Asesiad Risg penodol i Bobl Ifanc a hynny ynghylch unrhyw beryglon yn ymwneud â chyflogaeth y plentyn, a gadael i’r rhiant/gofalwr wybod beth yw canlyniad yr asesiad. Rhaid i’r cyflogwr hefyd sicrhau bod gan y plentyn ddillad ac esgidiau addas i'w gwisgo, ei fod yn derbyn hyfforddiant, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth ddigonol, a bod yswiriant priodol yn ei le.

O fewn 7 diwrnod i’r plentyn ddechrau gweithio rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais Cyflogi Plentyn a rhaid iddo ef a rhiant/gofalwr y plentyn ei harwyddo. Ar y ffurflen hon rhoir manylion y plentyn, yr oriau gwaith, y lle gwaith a’r math o waith fydd yn cael ei wneud.

Nid oes unrhyw beth mewn deddfwriaeth sy’n datgan faint y dylid talu plentyn o oedran ysgol. Y cyflogwr, y rhiant/gofalwr a'r plentyn sy'n cytuno ar hyn, ond os na fydd tâl o gwbl neu os fydd y plentyn yn cael ei dalu mewn ffordd arall (e.e. drwy wersi marchogaeth am ddim neu fwyd neu nwyddau am ddim) ystyrir ei fod yn cael ei gyflogi.

Dylai unrhyw gyflogwr sy’n ystyried cyflogi plentyn ond heb wneud hynny o’r blaen, gysylltu â’r Gwasanaeth Lles Addysg i gael cyngor.

Dylai cyflogwyr ystyried y canlynol:

  • Mae’n anghyfreithlon i gyflogi plentyn o dan 13 oed.
  • Mae'n anghyfreithlon i gyflogi plentyn heb Drwydded Cyflogi Plentyn.
  • Dim ond mewn rhai mathau o waith y gellir cyflogi plant (gweler isod)•Ni all blentyn weithio rhwng 7pm a 7am (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.
  • Ni all plentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7am ac 11am.
  • Ni all plentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos y mae disgwyl iddyn nhw fynychu’r ysgol.
  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu ar ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol, a gall weithio hyd at uchafswm o 25 awr bob wythnos yn ystod gwyliau hynny.
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu ar ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol, a gall weithio hyd at uchafswm o 35 awr bob wythnos yn ystod y gwyliau hynny.
  • Rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael egwyl am o leiaf 1 awr.
  • Mae rhaid i bob plentyn dderbyn o leiaf 2 wythnos o wyliau’n olynol bob blwyddyn

Rhai o’r rheolau a rheoliadau sy’n ymwneud â chyflogi plant sydd uchod, a’ch cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o Ddeddfwriaeth Cyflogi Plant a bod unrhyw blentyn yr ydych yn ei gyflogi yn cael ei gyflogi'n gyfreithlon.

Cyflogaeth sy’n cael ei wahardd i Blant

Ni chaniateir cyflogi plentyn o unrhyw oedran:

  • mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad gan blant yn unig.
  • i werthu neu gludo alcohol, oni bai ei fod mewn cynhwysydd wedi’i selio. I ddosbarthu llaeth
  • i ddosbarthu olew tanwydd
  • mewn cegin fasnachol
  • i gasglu neu ddidoli sbwriel
  • i wneud unrhyw waith sydd yn fwy na tri metr uwchlaw’r ddaear/llawr
  • i wneud unrhyw waith sy’n eu gadael yn agored i niwed yn sgil cyfryngau corfforol, biolegol neu gemegol
  • i gasglu arian neu ganfasio o ddrws i ddrws oni bai bod oedolyn yn ei oruchwylio
  • gweithio mewn sefyllfaoedd lle mae deunydd oedolion, neu sydd, am y rhesymau hyn, yn anaddas i blant am y rhesymau hynny
  • gwerthu dros y ffôn
  • gweithio mewn lladd-dy neu mewn rhan o siop gigydd neu safle tebyg sy’n gysylltiedig â lladd da byw, swydd cigydd neu baratoi carcas neu gig i'w werthu
  • fel cynorthwyydd mewn ffair neu arcêd neu mewn unrhyw safle arall a ddefnyddir er adloniant cyhoeddus trwy gynnig peiriannau awtomatig, gemau mentro neu sgil neu unrhyw ddyfais debyg
  • i roi gofal personol mewn cartrefi preswyl neu gartrefi gofal.

Nid yw hyn yn rhwystro plant rhag cymryd rhan mewn perfformiad o dan ddarpariaethau trwydded a ganiateir yn unol â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 14 neu hŷn

Caiff plentyn 14 neu hŷn ei gyflogi i wneud gwaith ysgafn, a hynny’n unig

Cyflogaeth a ganiateir ar gyfer plant 13 oed

Caiff plentyn 13 neu hŷn ei gyflogi i wneud gwaith ysgafn, a hynny’n unig, yn y categorïau a ganlyn:

  • gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • dosbarthu papurau newydd, neu ddeunydd print arall
  • gwaith siop, yn cynnwys llenwi silffoedd
  • siopau trin gwallt
  • gwaith swyddfa
  • golchi ceir â llaw mewn lle preswyl preifat
  • mewn caffi neu fwyty
  • mewn stablau ceffylau
  • gwaith domestig mewn gwestai ac eiddo arall sy’n cynnig llety

Y Broses Ymgeisio

Os hoffech wneud cais am drwydded i blentyn weithio, lawr lwythwch y Ffurflen Gais am Drwydded Waith i Blant, ei llenwi, a’i dychwelyd ynghyd â llun diweddar, maint pasbort o’r plentyn.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogi Plant ac Adloniant.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar EWS@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Lles Addysg

E-bost: EWS@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig