Trwydded Gwarchodwr

Gall plant fynd i berfformiad cyhoeddus, gwaith cyflogedig neu weithgareddau chwaraeon gyda gwarchodwr, os nad yw rhiant, gwarcheidwad neu athro ar gael.

Mae’n rhaid i warchodwyr fod â thrwydded a roddwyd gan eu hawdurdod lleol fel gofyniad cyfreithiol.

Beth yw gwarchodwr?

Mae gwarchodwr yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn. Gall hyn gynnwys sicrhau eu bod yn cael bwyd a diod, amser gorffwys a hamdden, a bod yna ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump oed.

Gall gwarchodwr oruchwylio hyd at 12 o blant.

Mae trwydded yn ddilys am dair blynedd ar ôl dyddiad y gwiriad GDG.  Bydd eich manylion yn cael eu rhoi yn ein cronfa ddata gwarchodwyr, a byddwch yn cael bathodyn.

Sut mae gwneud cais am Drwydded Gwarchodwr?

Bydd angen:

  • Ffurflen gais wedi ei chwblhau
  • Tystysgrif uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
  • Dau dystlythyr
  • Un ffotograff maint pasbort

Beth fydd yn digwydd yn y broses ymgeisio? 

Fe’ch cynghorir i wneud cais am Drwydded Gwarchodwyr neu adnewyddiad ohonidau neu dri mis cyn bod ei hangen.

Lawrlwythwch y Ffurflen Gais Gwarchodwyr a’i dychwelyd trwy e-bost.

Bydd angen i chi ddarparu dau dystlythyr manwl. Nid ydym yn derbyn tystlythyrau gan deulu a ffrindiau, neu bobl sy’n adnabyddus i’r ymgeisydd dim ond trwy’r sefydliad y maen nhw am fod yn warchodwr ynddo.

Os ydych chi’n wirfoddolwr, gallwch dalu am wiriad uwch y GDG ar-lein a byddwch yn derbyn dolen trwy e-bost i gwblhau’r cais.

Ar gyfer ceisiadau gwarchodwyr proffesiynol ble mae’n fwriad gennych chi godi tâl am eich gwasanaethau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda oherwydd mae’r broses dalu’n wahanol: EWS@torfaen.gov.uk.

Trefnir gwiriad GDG gyda swyddog o’r cyngor.

Bydd angen i chi fynychu sesiwn hyfforddiant gwarchodwyr ar-lein a drefnir gan Gyngor Caerdydd.  Cysylltwch â peca@cardiff.gov.uk i gadw lle os gwelwch yn dda.

Bydd angen i chi fynd i gyfweliad gwarchodwyr gyda Chyngor Torfaen.

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth yng Nghanllaw Gwarchodwyr Torfaen.

Am wybodaeth am wneud cais uwch i’r GDG, ewch i www.gov.uk.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth ac Adloniant Plant.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Lles Addysg

E-bost: EWS@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig