Teuluoedd yn Gyntaf - Rhaglen Cymorth Teuluoedd Torfaen

Pwy ydyn ni?

Mae Rhaglen Cymorth Teuluoedd Torfaen yn wasanaeth gwirfoddol Ymyrraeth Gynnar a Rhwystro, sy’n gweithio gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i oresgyn heriau, i gael newid positif.

Ein nod yw darparu cymorth cyfannol, teulu cyfan i adeiladu ar eich cryfderau, ynghyd â darparu cymorth sy’n briodol i’ch anghenion.

Ariennir y Rhaglen gan Lywodraeth Cymru.

Mae gennym gysylltiadau cryfion gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan hefyd. Mae gennym Gydgysylltydd SPACE-Lles (Pwynt Mynediad Sengl ar gyfer Lles Emosiynol Plant) sy’n rhan o’r tîm, sy’n prosesu ceisiadau am wasanaethau iechyd a gomisiynir megis CAMHS, Gofal Sylfaenol ac ati. 

Mae gweithio ar y cyd gyda’n Partneriaid mewn Iechyd yn golygu ein bod yn gallu cynnig pecyn i gymorth cyfannol i’r plentyn/person ifanc a'r teulu.

Sut allwn ni helpu?

Mae Rhaglen Cymorth Teuluoedd Torfaen yn cefnogi teuluoedd sydd angen help ac mae ar gael i bob teulu. Mae’r math o gymorth a gewch yn dibynnu ar anghenion penodol eich teulu, a fydd yn cael eu penderfynu gydag Asesiad Cymorth Teuluol.

Gallwn helpu gydag:

  • asesu anghenion eich teulu a llunio cymorth i ddiwallu’r anghenion hynny
  • cydgysylltu cymorth gan asiantaethau gwahanol, gan lunio Tîm o Amgylch y Teulu
  • trefnu cymorth os oes gan rywun yn eich teulu anabledd
  • cynghori ar brosiectau/gwasanaethau penodol a all helpu gydag anghenion penodol eich teulu

Enghreifftiau o’r hyn y gallwn ei wneud i helpu:

  • Cydberthynas deuluol
  • Cymorth gydag ymddygiad – sesiynau uniongyrchol / rhianta
  • Cyllid
  • Tai
  • Meithrin Cysylltiadau Ysgol a Chymuned
  • Hunan-barch a hyder
  • Cydberthnasau iach

Cyfeiriwch at ein Hasesiad Cymorth Teuluol ar gyfer pob maes y gallwn eich helpu gyda nhw.

Pwy allwn ni weithio gyda nhw?

Unrhyw deulu sy’n byw yn Nhorfaen, gyda phlant 0-18 oed sy’n cydsynio.

Lle ‘rydym wedi ein lleoli?

Mae gennym dimau wedi eu comisiynu ledled y Fwrdeistref:

  • Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl
  • Bron Afon
  • Canolfan Integredig Plant Cwmbrân

Cysylltu gyda’r tîm

I gael rhagor o wybodaeth am y ‘Tîm o Amgylch y Teulu’, cysylltwch â:

  • Ymholiadau Cyffredinol – TAFCo-ordinator@torfaen.gov.uk
  • Gogledd Torfaen (cod post yn cychwyn NP4) – 01495 742827
  • De Torfaen (cod post yn cychwyn NP44) – 01495 742854
  • Cydgysylltydd Tîm o Amgylch y Teulu – 01495 766972
Diwygiwyd Diwethaf: 15/04/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Teuluoedd yn Gyntaf Torfaen

Ebost: TAFCo-ordinator@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig