Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif: Trosolwg

21st Century Learning Overview

Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ymrwymiad  ‘Cymru’n Un’ ac yn gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau. Dyma raglen allweddol, strategol a hirdymor ar gyfer buddsoddi cyfalaf . Ei nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion fydd yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd y rhaglen yn creu ysgolion o’r math a’r maint cywir, yn y lle cywir.

Gwelwyd buddsoddiad sylweddol eisoes yn Nhorfaen (gweler Prosiectau Diweddar). Mae Torfaen dal i wynebu problemau yn nhermau lleoedd gwag mewn ysgolion a hen adeiladau ysgol. Yn 2011, fe ofynnodd Llywodraeth Cymru i gynghorau ledled Cymru i ddatblygu cynigion i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Ymateb Torfaen yw rhaglen fuddsoddi £280miliwn fydd yn:

  • gostwng nifer yr ysgolion cynradd
  • defnyddio adnoddau i’r eithaf
  • creu adeiladau hyblyg a gwagleoedd  y medrir eu haddasu i fodloni anghenion newidiol y cwricwlwm
  • gostwng nifer y lleoedd gwag ar lefel cynradd ac uwchradd
  • rhyddhau safleoedd er mwyn ail-fuddsoddi ac ailddefnyddio
  • sicrhau bod arbedion blynyddol ar gyfer ail-fuddsoddi a delio ag ôl-groniad cynnal a chadw sylweddol
  • gostwng nifer yr ysgolion llai
  • sicrhau dyfodol y ddarpariaeth iaith Gymraeg sy’n ehangu

Bydd y cynigion hyn yn:

  • creu amgylcheddau dysgu diogel ar gyfer ysgolion a chymunedau
  • sefydlu ysgolion o’r maint priodol yn y lle cywir a gwneud defnydd gwell o adnoddau i wneud y system addysg yn fwy cost-effeithiol
  • sicrhau bod ysgolion yn bodloni safonau adeiladu cenedlaethol, tra’n lleihau costau a’u hôl troed carbon
  • darparu lleoliadau addasadwy sy’n ysbrydoledig a phriodol ar gyfer datblygiadau addysgol a thechnolegau TGCh newydd a chyfoethog
  • darparu cyfleusterau ysgol y gellir eu rhannu, a chynnig ystod o gyfleusterau yn yr un lle ee gofal plant ac addysg i oedolion
  • creu lleoliadau cynhwysol sy’n bodloni anghenion dysgu unigol y disgyblion

Yn nhermau ein hysgolion uwchradd bydd hyn yn ein helpu i ddelio â’r:  

  • ffaith bod angen ailwampio ac ailfodelu'r saith ysgol sydd gennym, a hynny ar raddfa fawr ac mae angen dymchwel ac ailadeiladu rhai ohonynt
  • ôl-groniad sylweddol o waith cynnal a chadw
  • y mater o leoedd gwag
  • costau cludiant enfawr o ganlyniad dalgylchoedd sydd bellach wedi darfod
  • yr angen a’r cyfle i drawsnewid dysgu yn y chweched dosbarth

I ddarllen y newyddion diweddaraf ar brosiectau cyfredol ewch i'r dudalen Newyddion Diweddaraf.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Blaen Gynllunio
Ffôn: 01495 766910
E-bost: 21stcenturylearning@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig