Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004

Daeth Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i rym ar 14 Tachwedd 2005. Ei nod yw amddiffyn ar lefel sy’n gyson ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r ddeddf yn darparu fframwaith sylfaenol i bobl sy’n cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol a chenedlaethol. Mae’n esbonio sut y dylai sefydliadau ac asiantaethau gydweithio.

Diffinio Argyfwng

Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn canolbwyntio ar ganlyniadau argyfyngau. Mae’n diffinio argyfwng fel:

  • Digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth niwed difrifol i les pobl.
  • Digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth niwed difrifol i'r amgylchedd.
  • Rhyfel neu derfysgaeth sy’n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch.

Pa sefydliadau sy’n gyfrifol am ymateb i argyfyngau?

Mae’r ddeddf yn rhannu’r sefydliadau sy’n gyfrifol am gynllunio at argyfyngau yn ddau gategori.

Ymatebwyr Categori Un

Cyfeirir at Ymatebwyr Categori Un fel 'Ymatebwyr Craidd' hefyd. Maent yn cyflawni swyddogaeth hollbwysig mewn ymateb i argyfwng ac yn ddarostyngedig i gyfres lawn o ddyletswyddau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.

Dyma'r ymatebwyr hyn:

  • Y Gwasanaethau Brys
  • Awdurdodau Lleol
  • Cyrff Iechyd
  • Asiantaethau'r Llywodraeth

Maent yn gyfrifol am:

  • Gynnal asesiadau risg
  • Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith
  • Rhoi cynlluniau parhad busnes ar waith 
  • Rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill sy'n ymateb
  • Cydweithio rhwng yr asiantaethau sy'n ymateb
  • Rhoi cyngor a chymorth i fusnesau a'r sector gwirfoddol (Awdurdodau Lleol yn unig)

Ymatebwyr Categori Dau

Cyfeirir at Ymatebwyr Categori Dau fel 'Cyrff Cydweithredu' hefyd.

Er eu bod yn llai tebygol o fod yn rhan o gynllunio ac ymateb, byddant yn ymwneud yn helaeth â digwyddiadau sy'n effeithio ar eu sector. Mae'r rhain hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, ond mae'r dyletswyddau hyn yn llai na'r rhai a osodir ar Ymatebwyr Categori Un.

Dyma'r ymatebwyr hyn:

  • Cwmnïau Cyfleustodau 
  • Darparwyr Cludiant
  • Cyrff Iechyd
  • Asiantaethau'r Llywodraeth 

Maent yn gyfrifol am:

  • Gydweithredu ag ymatebwyr eraill
  • Rhannu Gwybodaeth

Ym mha ffordd y mae’r sefydliadau hyn yn cydweithio?

Mae’r DU wedi ei rhannu’n nifer o Ardaloedd Cydnerthedd Lleol. Rydym ni'n rhan o Ardal Cydnerthedd Lleol Gwent.

Mae gan bob Ardal Cydnerthedd Lleol Fforwm Cydnerthedd Lleol, sy'n cynnwys prif swyddogion y sefydliadau Categori Un.

Mae pob Fforwm Cydnerthedd Lleol yn gyfrifol am greu a chynnal Cofrestr Risg Gymunedol. Mae hyn yn nodi sefyllfaoedd a allai fod yn argyfyngus yn yr ardal, a’r camau gweithredu posibl sydd eu hangen i ddelio â hwy. I ganfod y risgiau posibl ar hyn o bryd yn ardal Gwent, edrychwch ar y Gofrestr Risg Gymunedol.  

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig