Stormydd a Gwyntoedd Cryfion

Dilynwch y camau canlynol i gyfyngu ar ddifrod ac aros yn ddiogel yn ystod cyfnodau o dywydd stormus.

Cyn y Storm

  • Clymwch unrhyw wrthrychau rhydd o gwmpas eich cartref a'ch gardd i'w hatal rhag chwythu i mewn i ffenestri ac achosi difrod i'ch cartref.
  • Caewch ddrysau, ffenestri a chaeadau o amgylch yr eiddo gan wneud yn siwr yn arbennig fod drysau mawr fel drysau garej wedi'u cau'n dynn.
  • Caewch gorddrysau llofftydd neu ddrysau sy'n arwain i'r to.
  • Os yw'n bosibl, parciwch gerbydau mewn garej neu ymhell oddi wrth adeiladau neu goed.

Yn ystod y Storm

  • Ceisiwch aros y tu mewn
  • Peidiwch â mynd allan i atgyweirio difrod yng nghanol y storm
  • Os yw'n bosibl, ewch i mewn i'ch cartref ac allan ohono drwy'r ochr sydd wedi'i chysgodi
  • Byddwch yn ofalus wrth yrru, yn enwedig ar ffyrdd agored neu os ydych chi'n gryru cerbyd ag ochrau uchel. Gohiriwch eich taith neu ddewiswch lwybr arall os yw'n bosibl.

Ar ôl y Storm

  • Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant os bu difrod i'ch eiddo neu'ch safle
  • Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw geblau sydd wedi'u chwythu i lawr
  • Gwnewch yn siwr fod unrhyw berthnasau neu gymdogion agored i niwed yn ddiogel a helpwch nhw i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw atgyweiriadau.

Gallwch weld mwy o gyngor ar dywydd garw a rhybuddion tywydd ar wefan y Swyddfa Dywydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig