Sicrhau Parhad Busnes

Adolygwch y cynlluniau sydd yn eu lle ar hyn o bryd, os o gwbl, rhowch flaenoriaeth iddynt yn ôl pwysigrwydd y gwasanaethau. Dechreuwch adolygu’r gwasanaethau pwysicaf gan weithio drwy’r holl wasanaethau sydd angen Cynllun Parhad Busnes.

Os nad oes gennych unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd, dechreuwch drwy restru gwasanaethau allweddol yn ôl blaenoriaeth. Paratowch a lluniwch ddogfennau sy’n cynnwys manylion trefniadau eraill a dulliau eraill o weithio a fydd yn caniatáu’r gwasanaethau sydd o flaenoriaeth i barhau dan amgylchiadau o bob math, yn cynnwys diffyg pŵer dros gyfnod hir, diffyg mynediad i swyddfeydd, diffyg staff allweddol oherwydd damwain neu salwch ac ati.

1 Nodwch yr angen i gynllunio 

  • Nodwch y gwasanaethau pwysicaf a’u rhestru yn ôl blaenoriaeth
  • Lluniwch restr o’r holl risgiau y gwyddoch amdanynt
  • Plotiwch bob risg ar graff effaith yn ôl tebygoliaeth gan ddefnyddio mesur o 1-5
  • Penderfynwch faint o risg allwch chi ei atal neu ei leihau a sefydlwch frasamcan o’r hyn y gall eich busnes ei gymryd. Cynlluniwch y gweddill

2 Paratowch eich cynllun 

  • Paratowch gynllun generig o gamau gweithredu i alluogi pob un o’ch gwasanaethau o flaenoriaeth i barhau, ac sydd hefyd yn cynnwys manylion y camau gweithredu penodol ar gyfer y gwahanol fathau o risgiau a gwahanol wasanaethau

3 Rhowch eich cynllun ar brawf 

  • Trafodwch eich cynllun gyda’r holl weithwyr perthnasol sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau allweddol a nodwch unrhyw anghenion hyfforddi
  • Efelychwch drychineb damcaniaethol a rhowch eich cynllun ar brawf  
Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig