Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Maes Parcio'r Ganolfan Ddinesig

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Torfaen wedi derbyn adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Broadweir Road, Cwmbrân, yn benodol yn yr ardal a amlinellir yn y map ynghlwm. Credwn fod y niwsans yn benodol ei natur ac yn digwydd yn yr ardal hon, ac mae wedi peri pryderon i'r rhai sy'n byw ger y gamlas ac yn defnyddio'r llwybr halio.

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 yn caniatáu gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn achosion lle mae'r Awdurdod Lleol yn teimlo y gellir cyfiawnhau hynny i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ni fydd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn atal defnyddio'r ardal yn gyfreithlon a bydd mwyafrif y bobl yn gallu parhau i wneud hynny o dan y telerau cyfredol. Bydd y Gorchymyn yn caniatáu inni ystyried dirwyon ac erlyn unrhyw un sy'n torri'r gwaharddiadau sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn.

Wrth gynnig gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rydym yn fodlon bod yr ymddygiadau a ddangosir gan rai unigolion yn yr ardal yn cael, neu wedi cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rheini sy'n byw yn yr ardal, yn barhaus o ran natur ac mae'r ymddygiadau a adroddir aelodau'r cyhoedd yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a osodir.

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori â thrigolion a'r holl bartïon eraill dan sylw, ym mis Awst 2020, gan ddechrau ar 11 Awst 2020 am 30 diwrnod.

Gall unrhyw un sy'n byw yn yr ardal, neu'n gweithio yn yr ardal neu'n ymweld â hi yn rheolaidd apelio yn erbyn GDMC yn yr Uchel Lys o fewn chwe wythnos i'w gyhoeddi. Mae apêl bellach ar gael bob tro mae'r GDMC yn cael ei amrywio gan y cyngor.

Gellir lawr lwytho copi o’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Broadweir Road Cwmbrân yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog Arweiniol Diogelwch Cymunedol
Ffôn: 01495 762200
E-bost: catherine.jones2@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig