Gorchmynion Llidiartu

Caiff Gorchmynion Gatio eu defnyddio fel mesur ar gyfer ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cânt eu cyflwyno mewn amgylchiadau priodol, sy'n galluogi'r Cyngor i gyfyngu mynediad cyhoeddus i rannau o briffordd gyhoeddus trwy ychwanegu gatiau.  

Gwneir Gorchmynion Gatio o dan Adran 129A Deddf Priffyrdd 1980, a ychwanegwyd at Ddeddf 1980 gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Rhaid gwneud y gorchmynion hyn yn unol â Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2007. 

Mae Adran 129A Deddf 1980 yn rhoi'r pŵer i'r Cyngor wneud Gorchymyn Gatio mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd neu lwybr troed os credir bod y rhannau hynny yn hwyluso lefelau uchel o droseddu parhaus.  

Cofrestr Gorchmynion Gatio

Mae'r Cyngor yn cynnal a monitro cofrestr o'r holl Orchmynion Gatio. Mae copi caled o'r Gofrestr ar gael i'w archwilio yn yr Uned Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus, Llawr 4, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB 

Mae copïau o'r Gorchmynion Gatio a wneir ar gael i'w gweld isod:

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Uned Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus
Ffôn: 01495 742892

Nôl i’r Brig