Gordaliadau - Budd-dal Tai

Gordaliad yw pan fyddwch wedi cael mwy o Fudd-dal Tai nag y mae gennych hawl i'w dderbyn.

Pam y mae gordaliadau'n digwydd? 

Efallai y byddwn wedi cael gwybodaeth sy'n golygu bod rhaid i ni adolygu faint o fudd-dal rydych chi'n ei dderbyn. Os yw'r newid yn golygu bod swm y budd-dal yn mynd i lawr a'n bod eisoes wedi talu'r swm uwch i chi, bydd hyn yn arwain at ordaliad.

Maent yn digwydd am nifer o resymau. Dyma rai enghreifftiau:

  • Efallai eich bod wedi anghofio dweud wrthym fod eich incwm wedi cynyddu, er enghraifft, os ydych wedi cael codiad cyflog neu os yw swm eich dyfarniad credyd treth neu bensiwn wedi newid.
  • Efallai bod rhywun wedi symud i mewn neu allan o'ch cartref.
  • Efallai eich bod wedi symud o'ch cartref a heb ddweud wrthym.
  • Efallai eich bod wedi dechrau gweithio neu wedi newid eich swydd.
  • Os oes oedolion eraill yn byw gyda chi, efallai bod eu hamgylchiadau wedi newid.

Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newid a pheidio â dibynnu ar unrhyw un arall i wneud hynny ar eich rhan. Hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y newid i'ch amgylchiadau, rhaid i chi roi gwybod i ni o hyd a pheidio â gadael i DWP ddweud wrthym.

Sut byddaf yn gwybod os byddaf wedi cael fy ngordalu?

Byddwn yn anfon llythyr hysbysu atoch yn rhoi manylion llawn am y gordaliad. Bydd y llythyr hysbysu hwn yn dweud wrthych pam y mae'r gordaliad wedi digwydd, swm y gordaliad a'r cyfnod. Bydd hefyd yn dweud wrthych sut y byddwn yn adennill y gordaliad a beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â'r gordaliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen Gordaliadau Budd-dal Tai.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Customer Care Team

Ffôn: 01495 766430

E-bost: benefits@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig