Talu budd-daliadau'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc

Lleihau'r amser a'r ymdrech o ran trefnu taliadau rhent

Mae'r Cyngor a'r llywodraeth yn hyrwyddo defnyddio cyfrifon banc ar gyfer tenantiaid sy'n cael budd-daliadau. Mae llawer o fanteision i dalu eich budd-dal fel hyn - mae'n golygu:

  • y byddwch yn cael eich budd-dal ar y diwrnod y mae'n ddyledus
  • na fydd rhaid i chi aros i gael siec trwy'r post nac aros iddo glirio
  • y byddwch yn gallu trefnu archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol i dalu eich rhent
  • y bydd gennych fwy o dawelwch meddwl bod eich rhent yn gyfredol

Agor cyfrif banc

Dylech allu agor cyfrif sylfaenol naill ai mewn banc, cymdeithas adeiladu neu yn Undeb Credyd Torfaen i gael eich Budd-dal Tai.

Mae mwy o wybodaeth am y banciau a'r cymdeithasau adeiladu yn Nhorfaen sy'n cynnig cyfrifon banc sylfaenol ar gael yma.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth ar agor cyfrif banc ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Gofal Cwsmeriaid

Ffôn: 01495 766430

Ebost: benefits@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig