Gwirio eich hawliad a gofynion tystiolaeth

Mae'n bwysig bod y swm cywir o fudd-daliadau'n cael ei dalu i'n cwsmeriaid a bod twyll a gwallau yn cael eu canfod a'u hatal cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn dibynnu arnom:

  • yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth briodol i ategu ceisiadau am fudd-daliadau; ac
  • yn cynnal gwiriadau pan fydd y budd-dal yn cael ei dalu.

Mae hefyd yn dibynnu arnoch chi'n rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau'n newid. Os nad ydych yn dweud wrthym am y newidiadau hyn, efallai y byddwch yn colli arian y mae gennych hawl i'w dderbyn neu'n cael gormod o fudd-dal . 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen Gofynion Tystiolaeth – Gwirio eich hawliad.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Customer Care Team

Ffôn: 01495 766430

Ebost: revs&bens@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig