Ôl-ddyddio Budd-daliadau

Nod yr adran hon yw rhoi arweiniad cyffredinol ar ôl-ddyddio unrhyw hawl dan y cynllun Budd-dal Tai a'r cynllun Gostwng y Dreth Gyngor.

Os ydych dan oedran pensiwn, gallwn ôl-ddyddio eich budd-dal am hyd at 1 mis yn achos Budd-dal Tai a hyd at 3 mis yn achos cynllun Gostwng y Dreth Gyngor os gallwch ddangos:

  • Bod gennych 'reswm da' am beidio â hawlio ynghynt
  • Nad oeddech yn gallu hawlio trwy gydol y cyfnod yr ydych am ôl-ddyddio eich budd-dal iddo (p'un a yw hynny am yr un rheswm neu resymau gwahanol)

Sut ydw i'n gofyn i chi ôl-ddyddio fy mudd-dal?

Rhaid i chi ysgrifennu atom yn gofyn i ni ôl-ddyddio eich budd-dal. Dylai'ch llythyr ddweud wrthym:

  • y dyddiad yr hoffech i ni ôl-ddyddio eich budd-dal iddo; ac
  • eich rhesymau dros beidio â hawlio'r budd-dal bryd hynny ac ers hynny.

Hefyd, bydd arnom angen tystiolaeth o'ch incwm yn ystod y cyfnod yr hoffech ôl-ddyddio'r budd-dal iddo (er enghraifft, slipiau cyflog) ac unrhyw wybodaeth arall yr ydych chi'n credu a all helpu eich achos (fel llythyr gan eich meddyg, os oeddech yn wael ar y pryd).

Os ydych dros oedran pensiwn, byddwn yn ôl-ddyddio eich hawliad am hyd at 3 mis fel mater o drefn, cyn belled â'ch bod yn gymwys i gael Budd-dal Tai neu ostyngiad i'r Dreth Gyngor yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid oes angen i chi ofyn i ni ôl-ddyddio eich hawliad. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni weld tystiolaeth o'ch incwm a'ch cyfalaf ar gyfer y 3 mis diwethaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Taflen Cyngor ar Ôl-ddyddio Budd-daliadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Customer Care Team

Ffôn: 01495 766430

Ebost: benefits@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig