Ynglŷn â Safonau Masnach

Nod Safonau Masnach yw sicrhau amgylchedd teg, diogel a chyfiawn i bawb sy'n prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn Nhorfaen.

Gwneir hyn trwy ystod o weithgareddau ymyrraeth, cyngor a gorfodi gyda busnesau a defnyddwyr.

Gwneir hyn drwy ystod o ymyriadau, cyngor a gweithgareddau gorfodi gyda busnesau a defnyddwyr.

Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau sy’n bartneriaid er mwyn casglu gwybodaeth a gorfodi’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu meysydd fel:

  • Pwysau a Mesurau
  • Labeli bwyd a chyfansoddiad bwyd
  • Nwyddau Ffug
  • Diogelwch Cynnyrch
  • Prisio (yn cynnwys Isafswm Prisiau Uned ar gyfer alcohol)
  • Masnachwyr Twyllodrus a Throseddau Stepen Drws
  • Credyd Defnyddwyr
  • Cam ddisgrifio Nwyddau
  • Sgamiau
  • Gwerthu i Bobl Dan Oedran

I gael mwy o wybodaeth am waith y Safonau Masnach ewch i:

Gall busnesau gael cyngor ar:

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyfarwyddyd am labelu bwyd (yn cynnwys alergeddau), rhybuddion bwyd, labeli ar-lein rhad ac am ddim a hyfforddiant ar alergeddau, i fusnesau.

Mae'r Asiantaeth hefyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i ffermwyr a busnesau bwyd anifeiliaid, gan gynnwys sut i wneud cais i gymeradwyo neu gofrestru eich busnes bwyd anifeiliaid.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am y rhybuddion bwyd diweddaraf a chynnyrch sy'n cael ei alw'n ôl.