Riportio Masnachwr

Da chi, gadewch i ni wybod os ydych chi’n credu bod masnachwr wedi torri deddfwriaeth Safonau Masnach.

Gall Safonau Masnach ymchwilio i unrhyw amheuaeth o weithgarwch troseddol a gall gymryd camau yn erbyn gwerthwyr a masnachwyr sy’n torri’r gyfraith. Fe allai’ch gwybodaeth chi atal troseddau rhag cael eu cyflawni a gallai atal eraill rhag dioddef trosedd yn y dyfodol.

Er enghraifft, rydych chi:

  • wedi gweld rhywun yn gwerthu tybaco, alcohol, tân gwyllt, paent chwistrellu neu gyllyll i blant
  • wedi cael gwybod bod rhywun wedi rhoi pwysau ar rywun oedrannus neu hyglwyf i brynu nwyddau neu wasanaethau nad oedd eu heisiau
  • yn gwybod ble mae cynnyrch ffug yn cael eu gwerthu
  • wedi cael eich camarwain gan labelu gwael neu brisiau sydd wedi eu harddangos yn wael
  • wedi talu mwy na’r pris a nodwyd
  • wedi prynu nwyddau neu deganau a allai fod yn beryglus
  • wedi prynu car ac mae’r milltiroedd a ddangosir arno’n ffug
  • wedi prynu nwyddau ble mae’r pwysau neu’r mesur yn brin
  • wedi prynu bwyd neu ddiod a gamddisgrifiwyd ar label neu fwydlen
  • wedi prynu bwyd sydd ‘heibio’i ddyddiad’, ddim o ansawdd boddhaol neu ddim yn bodloni safonau cyfansoddiadol lleiaf?

I riportio busnes/masnachwr neu unigolyn, ffôn 03454 04 05 06.

Caiff yr wybodaeth ei rhannu gyda Safonau Masnach, a fydd yn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad pellach neu gamau gweithredu, ac efallai y cysylltir â chi am fwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

Ffôn: 03454 04 05 06

E-bost: trading.standards@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig