Cyngor a Gwybodaeth i Gwsmeriaid

Darperir cyngor i ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Mae Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion i ddefnyddwyr gan gynnwys:

  • nwyddau sy'n ddiffygiol, ddim yn addas i'w pwrpas, neu sydd wedi eu disgrifio'n anghywir
  • gwasanaethau sydd heb eu cyflawni gyda gofal rhesymol ac o fewn amser rhesymol neu am bris derbyniol
  • beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo

Gallwch gysylltu â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar - 0808 2231133 (Saesneg) neu 0808 2231144 (Cymraeg).

Mae ffyrdd eraill o gysylltu hefyd ar gael ar wefan Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Mae'r gwasanaeth defnyddwyr hefyd yn gweithredu fel sianel i ganiatáu i gleientiaid roi gwybod am achosion posibl o dorri deddfwriaeth neu reoliadau diwydiant, neu ymarferion masnachu annheg, i Safonau Masnach. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn anfon atgyfeiriadau at bartneriaid Safonau Masnach i'w cefnogi yn eu gwaith. 

Mae'r gwasanaeth defnyddwyr hefyd yn cynnig cyngor ar ynni - Sgwrsio am broblem ynni.

Mae llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth lefel gyntaf am faterion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr. Hysbysir Safonau Masnach am gwynion gan ddefnyddwyr a masnachwyr yn Nhorfaen a byddant yn cysylltu â chi os ydynt yn ystyried ymchwilio ymhellach neu a bod angen gweithredu.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am y rhybudd diweddaraf am fwyd a chynnyrch sydd angen eu hadalw.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

Ffôn: 0808 2231144

E-bost: trading.standards@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig