Trwydded Deliwr Metel Sgrap - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Deliwr Metel Sgrap
Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

   

  • eu henw llawn
  • cyfeiriad y deliwr neu, yn achos cwmni, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni
  • cyfeiriad pob man sy'n cael ei feddiannu fel storfa ar gyfer metel sgrap, os o gwbl
  • a yw'r busnes yn cael ei redeg heb storfa ar gyfer metel sgrap
  • a yw'r busnes yn cael ei redeg heb storfa ar gyfer metel sgrap, ond mae'r ymgeisydd yn meddiannu man at ddibenion busnes, a chyfeiriad y lle hwnnw
Rhaid i'r deliwr cofrestredig roi gwybod i'r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i'r manylion hyn neu os yw'n rhoi'r gorau i fod yn ddeliwr metel sgrap.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwer, gallai gymryd mwy na 28 diwrnod i brosesu eich cais, ond bydd y rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu cydnabod, eu prosesu a'u cwblhau o fewn y cyfnod hwn.

Gwneud cais ar-lein 

Os ydych yn dymuno cofrestru fel Deliwr Metel Sgrap, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais hyn.

 

Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi at y Tîm Iechyd y Cyhoedd, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, NP4 0LS

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi er mwyn asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. 

 

Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

Ffïoedd Ymgeisio

Mae'r ffi ar gyfer gwneud cais wedi'i rhestru ar ein Ffïoedd Trwyddedu yma

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau Unioni Eraill

Cysylltwch â'r Tîm Iechyd y Cyhoedd.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig