Trwydded Sgip - Gwneud Cais am Drwydded

 Trwydded Sgip - Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch i roi sgip adeiladwr ar ffordd gyhoeddus.

Meini Prawf Cymhwysedd

Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Arfarnu'r Cais

Gellir rhoi caniatâd yn destun amodau a all fod yn ymwneud â'r canlynol:

 

  • lleoliad y sgip
  • mesuriadau'r sgip
  • sicrhau bod traffig yn gallu gweld y sgip
  • gofal am gynnwys y sgip a'i gwaredu
  • goleuo a gwarchod sgipiau
  • symud sgipiau
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydy. Mae er budd y cyhoedd i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch ag ef.

Gwneud cais ar-lein

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ofyn am drwydded.

Unioni Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

Iawndal i Ddeiliaid Trwyddedau

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am gwyno, byddem bob amser yn eich cynghori i gysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr (gyda phrawf eich bod wedi'i anfon), yn ddelfrydol. Os na fu'n llwyddiannus a'ch bod yn byw yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. O'r tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau Unioni Eraill

e.e. yn ymwneud â sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, os bydd un daliwr trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnachu

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'r derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdogaeth

Ffôn: 01495 766797

 E-bost : skipsandscaffoldingpermits@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig