Caniatâd Masnachu ar y Stryd - Gwneud Cais am Drwydded

Caniatâd Masnachu ar y Stryd
Crynodeb o'r Drwydded 

Os ydych chi'n masnachu ar y stryd, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd masnachu ar y stryd arnoch.

 

Dylid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'ch cyngor lleol, neu'r cyngor lleol ar gyfer yr ardal lle'r ydych yn dymuno masnachu.

 

Mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol, gan gynnwys manylion y stryd y dymunwch fasnachu arni, a'r diwrnodau a'r amseroedd pryd rydych chi'n dymuno masnachu.

 

Bydd angen i chi hefyd ddarparu dau lun ohonoch chi'ch hun.

 

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded.

Meini Prawf Cymhwysedd 

Mae'n rhaid eich bod chi dros 17 oed i gael trwydded. Gwrthodir rhoi trwyddedau os bydd unrhyw rai o'r rhesymau canlynol yn bodoli:

 

  • nid oes digon o le yn y stryd lle'r ydych yn dymuno masnachu, heb achosi ymyrraeth neu anghyfleustra i ddefnyddwyr y stryd
  • eich bod yn dymuno masnachu am lai o ddiwrnodau na nifer y diwrnodau masnachu gofynnol
  • eich bod yn anaddas i gael trwydded oherwydd unrhyw euogfarnau blaenorol neu resymau eraill
  • eich bod yn y gorffennol wedi methu â thalu'r ffïoedd a oedd yn ddyledus ar gyfer trwydded arall i fasnachu ar y stryd neu wedi methu â defnyddio trwydded flaenorol i fasnachu ar y stryd
Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

O dan rai amgylchiadau, os yw rhesymau penodol dros wrthod yn bodoli, gallai'r cyngor benderfynu o hyd i gyflwyno trwydded ond ar gyfer llai o ddiwrnodau nag y gofynnwyd amdanynt, neu ganiatáu masnachu eitemau penodol yn unig.

 

Bydd y cyngor naill ai'n cymeradwyo'r cais neu'n cyflwyno hysbysiad i chi o fewn cyfnod rhesymol.

 

Bydd y cyngor yn cyflwyno hysbysiad os yw'n bwriadu gwrthod y cais, ei ganiatáu gyda thelerau sy'n wahanol i'r telerau y gwnaed cais amdanynt, cyfyngu'r masnachu i fan penodol ar y stryd, amrywio amodau trwydded neu ddiddymu trwydded. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Bolisi Gweithredu ar gyfer Masnachu ar y Stryd a strwythur Ffïoedd Trwyddedu y cyngor.

 

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion am resymau'r cyngor dros eu penderfyniad ac yn datgan eich bod, o fewn saith diwrnod o'r hysbysiad, yn gallu gwneud cais ysgrifenedig am gyfle i gyflwyno sylwadau.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais i fasnachu ar y stryd

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus 

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.

 

Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.

 

Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach 

Dim

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647284

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig