Trwydded Storio Petrolewm - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Storio Petrolewm
Crynodeb o'r Drwydded 

I redeg busnes lle y caiff petrol ei storio i'w ddosbarthu'n uniongyrchol i danc tanwydd peiriant tanio mewnol - neu lle y caiff swm sylweddol o betrol ei storio at ddefnydd preifat - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod trwyddedu petrolewm lleol.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Deddf Petrolewm (Cydgrynhoad) 1928 (fel y'i diwygiwyd gan DSEAR)

 

Mae arweiniad ar ddiogelwch petrolewm ar gael oddi wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Sut i wneud cais

Os ydych am gael neu adnewyddu Trwydded Petrolewm neu i newid manylion trwydded bresennol, lawrlwytho copi o'r cais am drwydded i gadw ysbryd petrolewm / cymysgeddau ffurflen yma.

 

Mae'r amodau trwyddedu ynghlwm ar ffurf nodiadau ar ddiwedd y ffurflen gais.

Ffïoedd Ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r Ffïoedd Trwyddedu

 

Caiff ffïoedd petrolewm eu gosod yn genedlaethol.

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi fel y gellir asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn arolygu'n flynyddol ar adeg adnewyddu eich trwydded, ond gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o broses y drwydded, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwer, gallai gymryd mwy na 28 diwrnod i brosesu eich cais, er y bydd y rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu cydnabod, eu prosesu a'u cwblhau o fewn yr amserlen hon.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

Cymdeithasau Masnach

Mae cymdeithasau masnach yn ffynhonnell dda o wybodaeth ddefnyddiol

 

Ffederasiwn y Cyflenwyr Petrolewm

 

Cymdeithas yr Adwerthwyr Petrol (PRA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/06/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig