Tystysgrifau Diogelwch ar gyfer Eisteddleoedd Chwaraeon - Gwneud Cais am Drwydded

Tystysgrifau Diogelwch ar gyfer Eisteddleoedd Chwaraeon - Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych chi'n rhedeg maes chwaraeon yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban nad yw wedi'i ddynodi'n faes sydd angen tystysgrif diogelwch, bydd angen o hyd i chi gael tystysgrif diogelwch ar gyfer unrhyw eisteddle gorchuddiedig sydd â lle i 500 neu fwy o gefnogwyr. Gall tystysgrif diogelwch naill ai:

 

  • fod yn dystysgrif diogelwch gyffredinol sy'n ymwneud â defnyddio'r eisteddle i wylio gweithgaredd, neu nifer o weithgareddau, sydd wedi'u rhestru yn y dystysgrif am gyfnod amhenodol ac sy'n dechrau ar ddyddiad penodol
  • neu gall fod yn dystysgrif diogelwch arbennig sy'n ymwneud â defnyddio'r eisteddle at ddiben gwylio gweithgaredd neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron penodol 
Gall un dystysgrif fod yn berthnasol i fwy nag un eisteddle. 

Cewch dystysgrifau gan eich awdurdod lleol.

 

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth meysydd chwaraeon i'w chael yn Neddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987.

 

Mae rhestr o'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd chwaraeon i'w chael fan yma.

Pwy all ymgeisio?

Er mwyn bod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch gyffredinol, rhaid mai chi sy'n gyfrifol am reoli'r maes.

 

Er mwyn bod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch arbennig, rhaid mai chi sy'n gyfrifol am y gweithgaredd a fydd yn cael ei wylio o'r eisteddle ar yr achlysur hwnnw.

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am dystysgrif diogelwch neu i newid manylion trwydded bresennol, lawrlwytho copi o'r cais am dystysgrif diogelwch - Ffurflen stand reoleiddir yma.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r Ffïoedd Trwyddedu

Y broses ymgeisio

Mae'n rhaid i ymgeiswyr roi'r wybodaeth a'r cynlluniau y gofynnir amdanynt i'r awdurdod lleol o fewn yr amser penodedig. Os nad yw'r ymgeisydd yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn y cyfnod penodedig, ystyrir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a yw unrhyw eisteddle yn ei ardal yn eisteddle rheoledig. Os yw'n penderfynu bod eisteddle penodol yn rheoledig, bydd yn cyflwyno hysbysiad i'r unigolyn yr ymddengys ei fod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch gyffredinol. Bydd yr hysbysiad yn rhoi manylion penderfyniad yr awdurdod lleol ac effeithiau'r penderfyniad.

 

Pan fydd awdurdod lleol yn cael cais am dystysgrif diogelwch gyffredinol ar gyfer eisteddle rheoledig mewn maes chwaraeon, rhaid iddo benderfynu a yw'r eisteddle yn eisteddle rheoledig ac ai'r ymgeisydd yw'r unigolyn sy'n gymwys i gael tystysgrif. Os yw'r awdurdod eisoes wedi penderfynu bod yr eisteddle yn eisteddle rheoledig a'i fod heb ddiddymu'r penderfyniad hwn, rhaid iddo benderfynu ai'r ymgeisydd yw'r unigolyn sy'n gymwys i gael y dystysgrif diogelwch gyffredinol.

 

Os yw'r awdurdod lleol yn cael cais am dystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer eisteddle rheoledig, rhaid iddo benderfynu a yw'r ymgeisydd yn gymwys i gael y dystysgrif.

 

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch at brif swyddog heddlu'r ardal, i'r awdurdod tân ac achub os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw ac i'r awdurdod adeiladu os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw. Rhaid ymgynghori â phob un o'r cyrff hyn ynghylch y telerau ac amodau a fydd yn cael eu cynnwys mewn tystysgrif.

 

Os gwneir cais am drosglwyddo tystysgrif, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a fyddai'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo yn gymwys i gael tystysgrif, pe bai'r unigolyn hwnnw yn gwneud cais. Gall yr ymgeisydd fod yn ddeiliad presennol y dystysgrif neu'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo. 

 

Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copi o'r cais at brif swyddog heddlu'r ardal, i'r awdurdod tân ac achub os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw ac i'r awdurdod adeiladu os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw. Bydd yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r cyrff hyn ynghylch unrhyw ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo arfaethedig.

 

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Bydd maint a chymhlethdod maes chwaraeon neu eisteddle rheoledig, a gallu rheolwyr y safle i ddarparu gwybodaeth a chyflawni unrhyw waith gofynnol, yn effeithio ar yr amser a fydd ynghlwm wrth y camau amrywiol sy'n angenrheidiol i baratoi, cyhoeddi a monitro Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol. Sylwer, gallai gymryd rhai misoedd i gwblhau'r broses a chyhoeddi tystysgrif.

 

Pan fydd eich safle wedi cael tystysgrif, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu eich tystysgrif, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses rhoi tystysgrif, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwer, bydd y broses gymeradwyo gyfan yn cymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau ymgynghori angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

 

Os gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch i ymgeisydd gan nad ystyrir ei fod yn unigolyn cymwys, caiff yr ymgeisydd gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon. Os gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch arbennig i ymgeisydd am resymau heblaw am benderfyniad nad yw'n unigolyn cymwys, caiff yr ymgeisydd hwnnw hefyd gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon yn erbyn hynny.

 

Os yw unrhyw ddeiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei dystysgrif diogelwch neu unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni, neu apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio tystysgrif diogelwch neu gyflwyno tystysgrif newydd, caiff gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon. Hefyd, caiff apelio i'r Llys Sirol yn erbyn gorchymyn gan y Llys Ynadon.

 

Caiff unrhyw unigolyn sy'n ymwneud â sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r dystysgrif diogelwch apelio i'r Llys Ynadon yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm wrth dystysgrif diogelwch neu unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio tystysgrif diogelwch neu gyflwyno tystysgrif diogelwch newydd.

Cymdeithasau Masnach

Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon a Chwarae (FSPA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol  ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig